Skip to main content

Y TRAETHODYDD. FY NHAD. Gan y Parch. WILLIAM EEES. Env fy nhad oedd Daíydd Rees. Efe oedd yv ieuengaf o bedwar o feib- ion. Enwau ei rieni ydoedd Henry Rees, a Gwen Llwyd (yn ol ei chyf- enw morwynol) o Chwibren isaf, yn mhlwyf Llansanan, Sir Ddinbych. Gŵr genecligol o Landeilo-fawr, yn Sir Gaerfyrddin, ydoedd Henry Rees. Daethai i Lansanan yn gyllidydd, ac ymbriododd â Miss Gwen Llwyd, yr hon oedd etifeddes Chwibren, a thyddynod eraill yn y plwyf. Yr oedd henafiaid fy nain wedi bod yn cyfanneddu yn y Chwibren o genedlaeth i genedlaeth dros lawer o oesau olynol; a chyfrifid hwy yn nosbarth uchel- wyr y wlad. Disgynyddion oeddynt o Hedd Molwynog, tad un o bym- theg llwyth Gwynedd, yr hwn a gyfanneddai yn Henllys, Llanfairtal- haiarn. Buasai un o henafiaid fy nain, medd Mr. Pennant, yn swyddog yn myddin Edward IV., a dywedir mai crëadur anhydrin iawn ydoedd yn y rhyfeloedd rhwng teuluoedd York a Lancaster. Un arall o'r teulu a adeiladodd bont Llansanan, yr hon sydd yn aros hyd y dydd hwn. Dy- wedir am un arall ddarfod iddo amrafaelio â'i denantiaid, a'u troi ymaith o'u tyddynod, fel yr aeth rhan o'i etifeddiaeth yn dir gwyllt, ac y cafodd yr enw Fforest. Y mae tyddyn mawr o'r enw yu gyfagos i Chwibren. Yr oedd Henry Rees, tad fy nhad, yn ŵr lled fyr, crwn o goríTolaeth, chwimwth ei droediad, a sydyn ei dymher. Ychydig o bregethu oedd yn Llansanan yn yr amser hwnw; oncl yr oedd capel Tan y fron wedi ei adeiladu, a phregethu rheolaidd yno gan y Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oedd teulu Clrwibren yn arfer cyrchu yn rheolaidd yno i wrando. Byddai pregethu achlysurol hefyd ar Glwt Cogr, darn bychan o dir cyffrediu, o fewn tua chwarter milldir i Lansanan, ac aber ddwfr yn rhedeg trwyddo. Pan ddelai gŵr dyeithr o enwogrwydd trwy y wlad, ceisiai ychydig gyf- eillion yr efengyl ganddo roddi pregeth ar ganol dydd gwaith ar y lle hwn. Unwaith dygwyddodd fod gŵr dyeithr yn pregethu yno ar yr adeg vr oedd Dyffryn Aled, palas Mrs. Yorke y pryd hyny, yn cael ei ailadeiladu. Yr oedd yn golygu yr adeiladaeth gawrfil anferth o^Sais o'r enw King, yr hwn oedd dywysog ar bob rbyscdd a gyflawnid yn y pentref dros dymmor ei drigias yn y lle. Yr oedd King yn ddychryn i blant a hen wragedd y pentref. Yr oedd ei iaith, a'i wisg, a phobpeth yn tynu sylw, ac yn destun siarad cyffredin, ei het yn neillduol, yr hon oedd â choryn bychan 1856.—3. t