Skip to main content

Y TRAETHODYDD. YMCHWILIADAü MEDDWL DYN I WEITHREDOEDD DWYLAW DUW. Ehan I. Hanes esgyniadau ac yinchwiliadau meddwl dyn i ddirgeledigaethau mawrion weithredoedd Duw yn ffurfafen y nefoedd ydyw uu o gangenau mwyaf dyddorol hanesyddiaeth dyn. Yn yr ymchwiliadau hyn y dangos- odd fwyaf o fawredd a chryfder ei alluoedd o ddim a wnaeth; ac ar faes yr ymdrech hon yr ennillodd y buddugoliaethau dealltwriaethol mwyaf ys- plenydd o un maes y bu yn ymdrechu arno. Seryddiaeth yn bendifaddeu ydyw yr ardderchocaf o'r gwyddorion anianyddol; nid fel damcaniaeth (theory) yn unig, ond hefyd ar gyfrif ei defnyddioldeb ymarferol—y ffrwyth a ddeillia oddiwrthi mewn celfyddyd, trwy yr hyn y U'iosoga fanteision a chysuron bywyd dyn, yn gystal ag yr ëanga ei feddwl ac y twymna ei galon trwy agoryd meusydd annherfynol a cbyfoethog o flaen ei sylw a'i fyfyrdod. Chwaer-wyddoreg iddi ydyw Daeareg (Geology), yr hon nid yw ond ieuanc iawn mewn cymhariaeth iddi hi; a phrydferthwch ieuenctyd, ac arddangosiadau rhyfeddol yr hon sydd yn ennill sylw a serch tyrfa liosog o edmygwyr yn y dyddiau hyn. Dringodd meddwl dyn i fyny i uchelder y nefoedd uchod oesau lawer cyn iddo ddechreu disgyn i iselder y ddaear isod. Ymgyfathrachodd lawer iawn â ser y ffurfafen fry cyn dechreu tynu cyfrinach wyddorol â'r ddaearen obry. Y mae.jhyw dueddfryd dirgeledig yn ei ysbryd i " esgyn i fyny " yn ei ymchwil am wybodaeth yn ei fywyd, yn gystal ag yr esgyna felly ei hun ar ei ýmad- awiad â'r corff yn angeu. Amcanwn olrhain ychydig ar hanes yr ymchwiliadau a wnaeth meddwl dÿri o bryd i bryd i weithredoedd dwylaw ei Greawdwr yn " ffurfafen ei üerth" ef. "Ÿ mae efe yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif." Un o'r gweithredoedd mwyaf "ofnadwy a'rhyfedd" o honynt oll ydyw y meddwl hwn ei hun, yr hwn sydd yn gallu chwilio ac ymwthio i mewn i ddirgeloedd y lleill—yn gallu esgyn a rhodio megys ymysg ser Duw, eu pwyso a'u mesur, eu holi a'u holrhain, deall eu cyf- rinach, ac esbonio y deddfau a'u llywodraethant;—'ie, gallodd ddeall ac amgyffred deddfau ac ordeiniadau y nefoedd yn llawer iawn gwell nag y gall ddeall ac egluro y deddfau a lywodraethant ei ysgogiadau a'i weith- rediadau ef ei hunan. Ni chyfododd uu Copernicus, na- Kepler, na 1855.—1, b