Skip to main content

Y TRAETHODYDD. ATHRYLITH A GWEITHIAU PEDR FARDD. Y mae dadl fawr wedi bod yn y byd barddonol er's blyneddau, gyda golwg ar yr awen. Myn rhai mai rhodd neillduol ydyw i ryw bersonau neill- duol, ac na waeth i'r rhai sydd heb ei derbyn heb geisio myned yn feirdd, na lwyddant hwy ddim byth. Dadleua rhai eraill nad oes dim yn y dyb hono; ond y dichon i bob dyn, o synwyr cyíFredin, os try efe ei feddwl at farddoniaeth, lwyddo a dyfod ymîaen yn y wyddoniaeth. Dymunem ni ymrestru gyda'r rhai sydd o'r golygiad diweddaf; ac eto, ar yr un pryd, dymunem alw sylw y darllenydd at y íFaith fod ambell ardal yn cynnyrchu mwy o feirdd na'r llall, ac fod rhywbeth yn neillduol yn meirdd ambell wlad ragor y llall, ar wahanol dymmorau. Pwy a glywodd am nemawr o feirdd y gynghanedd yn cyfodi yn y Deheubarth, o'r un argraff a Dafydd ab Gwilym, Ieuan Brydydd Hir, a Iolo Morganwg, ar eu hol hwy ? Y mae yn wir fod yno lawer o feirdd, mewn enw, wedi cyfodi o dro i dro, a llawer o'r rhai hyny yn cael eu hystyried yn enwog; ond yr oedd rhyw- beth mwy uchelddysg yn y wyddoniaeth, yn y tri bardd a nodwyd, nag yn neb arall yn Neheudir Cymru. Dichon fod amryw o'r beirdd diwedd- araf yn ddysgedig, ie, yn fwy dysgedig na dau o'r tri, yn yr ieithoedd meirwon; ond yr oedd ynddynt rhywbeth ar ol—nid oeddynt yn dyfod i fyny â'r hen feirdd yn nysgleirdeb a nerth eu hawen, nac yn ngorpheniad eu gwaith. Y mae llawer o gynghaneddion yn nghyfansoddiadau y rhai a nodwyd, fel pe byddent yn y byd erioed; ac fel pe byddent i fod yn y byd am byth. Nid ellir eu gwellhau, ac ni welir cyfnewidiad arnynt yn oes y byd. Y mae ynddynt arwireddau tragywyddol o ran eu syniadau; ac y maent yn cynnwys y fath goethder mewn iaith a syniadau, fel y bydd- ai yn rhyfyg i neb geisio eu gwellau. Y mae barddoniaeth y Deheubarth, er's blyneddau bellach, yn fwy cyffrediu, ac yn fwy dîaddurn. Y mae lliaws o feirdd mân wedi codi tua'r gweithfaoedd, drwy lechu yn nghysgod y gynghanedd, heb wreichionen o farddoniaeth yn eu gwaith, er y dichon ei fod yn ddigon rheolaidd o ran cynghanedd. Y mae yn ymddangos yn hollol amddifad o athrylith; er fod y cleciadau ynddo yn ddigon cywir, nid ydyw yn meddu na nerth na swyn. Y mae yn cynnwys mwy o ymgaia at bertrwydd nag at fawreddogrwydd; y mae yn fwy tueddol i ogieisio nag i synu. Bu gwlad Môn yn enwog am ei beirdd yn nyddiau Ooronwy Owain, Lewis Morris, a'i frodyr, y Bardd Coch, a Robin Ddu; ond ar ol eu marw- olaeth, bu yr ynys dan gwmwl am flyneddau, heb o'i mewn ond ambell rigymydd yma ac acw. Y mae wedi gwella yn ddiweddar. Gorphenap, 1854.] s