Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CYFLAWNDEE Y DUWDOD. " Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorffbrol." Colossìaid ii. 9. Mae yr apostol yn y permodau hyn yn arddangos gogoniant person a chyfryngdod yr Emmanuel, a hyny i'r dyben o gadarnhau eneidiau y Colossiaid yn eu hymlyniad wrtho. Nid anmhosibl ydy w, fod yr hyn oedd ar y cyntaf yn achlysur iddynt dderbyn yr efengyl yn fwy chwannog, erbyn hyn wedi troi yn demtasiwn i gofleidio rhyw bethau eraill ag oedd yn anghyson â hi. Mae dysgedigion, pa fodd bynag, yn dywedyd wrthym, fod yn y byd cenedlig, yn bur gyffredin yn yr oes hon, ryw anesmwythyd am y gwirionedd. Yr oedd dynion coethedig, hyd yn nod yn mysg y paganiaid, a'u hysbryd a'u hyder wedi colli o grefydd eu hynafiaid—pryder ynghylch y dyfodol wedi deffroi yn eu mynwesau, ac insiincts crefyddol eu natur yn dyheu am ryw ddadguddiad eglurach o Dduw, ae am fwy o wybodaeth a sicrwydd am y byd anweledig. Parai yr ysfa yma i aml un o honynt gofleidio Cristionogaeth. Ond ar y cyntaf, cyn i'r efengyl naws- eiddio eu hysbryd yn drwyadl, yr oeddynt mewn enbydrwydd yn fynych rhag cael eu llygru oddiwrthi drachefn. Canys os byddai eu syniadau wedi eu lefeinio yn flaenorol â philosophi eu hoes, a'u hawyddfryd am newydd- deb yn parhau, yr oedd yr ysbryd afiach hwnwT yn tueddu i wrthweithio gwirioneddau yr efengyl yn eu meddyliau, ac yn eu parotoi i gofleidio yn hytrach orchymynion ac athrawiaethau dynion fel pethau mwy cydnaws âg archwaeth bresennol eu calonau. l'w meddyliau hwy, ymddangosai addysg y gau-athrawon Iuddewig yn uwch doethineb a dirgelwch; ac yn eu hym- attaliadau fwy o berffeithrwydd a defosiwn nag a gyflwynid i'w sylw yn nghrefydd syml ac ymarferol yr Arglwydd Iesu. Oddiwríh awgrymau yr apostol yn y llythyr hwn, fe ellid casglu, dybygid, fod yn Colossa, a pharthau eraill o Asia Leiaf, rai Cristionogion o dueddiad fel yma. Ac heblaw hyny, erbyn hyn yr oedd y gau-athrawon crybwylledig wedi ymlusgo i w mysg— dysgawdwyr o'r un chwaeth a hwy eu hunain, ac yn addaw eu perffeithio mewn doethineb a chrefydd. Er nad oedd y dynion yma, o bosibl, yn gwrthod Cristionogaeth yn hollol, eto, yr oeddynt yn ei hadffurfio i ateb i'w mym- pwy eu hunain, ac yn dwyn i mewn i'r eglwysi syniadau ac arferion ewbl ddinystriol i'w hysbryd a'i hamcanion. Fe ellid meddwl eu bod yn ym- ffrostio yn nirgeledigaethau eu crefydd, ac o'u cymundeb â'r byd ysbrydol —yn hòni cydnabyddi?eth âg angelion, gan eu hystyried yn wrthddrychau addoliad a pharch ; ac mewn trefn i gymdeithasu yn fwy dirwystr â dirgel- edigaethau doethineb, ac â'r byd anweledig, gwaharddent bob boddhâd i'w synwyrau corfforol. "Na chyffwrdd, nac archwaetha, na theimla." Yr Ebrill, 1854.] ' k