Skip to main content

/, ■? Y TRAETHODYDD. HOWEL HAREIS. \The Life and Times ofüOWEL Harris, Esq., thefirst Itincrant Preacher in Wales. By the Rev. Edward Morgan, M.A., Vicar of Syston, Leicestershire. Holywell. 1852.] Y mae y Parchedig Edward Morgan yn teilyngu parch a diolchgarweh oddiar ein llaw ni, y Cymry, am y llafur y mae wedi bod ynddo i ddwyn rhai o enwogion ein gwlad i sylw y deyrnas a'r byd Cristionogol. Mae Mr. Morgan wedi ymgymeryd â'r gorchwyl hwn gyda'r awyddfryd hwnw sydd yn tarddu oddiar deimlad o gariad ac unfrydedd tuag at ei wrth- ddrychau. Er fod rhagluniaeth wedi ci daflu i eigion Lloegr, eto nid yw wedi colli calon ac ysbryd Cymro. Mae yn hawdd deall pa le y mae cartrefie ei feddwl, ac mai tcimlad estron allan o wlad ei enedigaeth yw y teimlad cryfaf sydd yn ei feddiannu. Y mae efe Avedi yfed yn ehelaeth o ysbryd yr hen ddiwygwyr Cymreig; a gŵr o'r fath yma oedd eisieu i ddyweyd eu hanes i'w hŵyrion a'u gorŵyrion. Er mai ofìeiriad yw Mr. Morgan, eto y mae yn trin ei fater gyda haelfrydedd a dibartiaeth, ag syHd yn galw am ein cydnabyddiaeth mwyaf gwresog, ac yn cynhesu ein calon ato mewn teimladau o wir barcli. Rhaid dyweyd fod ganddo des- tunau digon uchel a swynol i alw am y galluoedd cryfaf atynt, a digon teilwng o'u medrusrwydd a'u hymdrechion campusaf i'w darlunio ; a buasai yn warth tragywyddol ar Gymru pe gollyngasid y fath gyfnod hynod yn hanes ein gwlad, ag a gymerodd le yn y Diwygiad Methodistaidd, i fyned i dywyllwch, heb alw sylw y byd Cristionogol ato, oblegid yr ydym yn credu mewn gwirionedd mai " mawr allu Duw oedd hwn." Bellach ni bydd hyn felly. Mae " Mcmoirs of the Rev. Thomas Charles, of Baìa;" " Ministerial Records of the Rev. Griffith Joncs, Llanddowror, and Daniel Roiclands, Llangeitho" a'r "Memoirsof Hoioel Harris, Esq."—oll o dan law Mr. Mor- gan, wedi cadw coffadwriaethau y goreuwyr hyn rhag syrthio i dir anghof, ac ennill sylw neillduol ein cymydogion yn Lloegr a'r Alban, ynghyd âg America, at y gwaith mawr a wnaeth yr Arglwydd yn Nghymru trwy- ddynt. Mawr barch ynte a fyddo i'n cyfaill, Mr. Morgan. Mae y Cymry yn ddylcdwyr iddo, meddwn eto; gwnaeth ei oreu, ac yn yr ysbrydgoreu, i lcnwi bwlch yn ein hanesiaeth eglwysig; a pheth sydd gan neb i'w wneyd ond canmawl pan fo dyn ar ei oreu. Nid oes arnom eisieu yn ychwaneg ond i awdwr parchus y llyfr gwerthfawr hwnw, "Method- istiaeth Cymru," wneuthur anrheg o hono i eglwysi y deyrnas gyfunol mewn gwisg Seisnig ; a byddwn wrth ein bodd wedi hyny, dan yr ystyr- iáeth o fod yn hysbys i'n brodyr yn mhob man, o'r bron, am yr hyn a wnaeth Duw i'w bobl. * Ionawr, 1854.] b -:.