Skip to main content

Y TRAETHODYDD. LLYFR MICA. Trigai Mica yn Moresa, tref ar gyffiniau y Philistiaid. Prophwyd oedd i Iowda ac Israel, yn enwedig i'r cyntaf. Yr oedd yn byw yr un amser ag Isaia, ond ni fu mor hir yn prophwydo. Mica oedd ei enw, ac nid Micaia, yr hwn oedd fyw ynghylch can' mlynedd o'i flaen; 1 Bren. xxii. 8. Prophwyda am ddinystr Samaria ac am ddinystr Ierusalem, am y dy- chweliad o gaethiwed, ac am gyflwr dedwydd a llwyddiannus yr Iddewon wedi eu hadferiad i'w gwlad eu hun, am ddyfodiad Crist, a helaethrwydd, llwyddiant, a pharhad ei deyrnas. Rhydd i ni hefyd ddarluniad o agwedd anfoesol y trigolion yn ei ddydd, yn enwedig o ormes a chreulondeb y llywodraethwyr. Nid yw ddim yn dyweyd cymaint a'r prophwydi eraill am eilun-addoliaeth—pechod cyôredin y ddwy genedl. Llygredigaeth yr oes a noda yn fwyaf neillduol. Y mae, fel Hosea, yn eirfyr, yn myned yn gyflym o un peth i'r llall, ac yn fynych yn cyfnewid y dynsodau, mi a ni, ti a chwi, efe a hwynt. Mae rhai manau yn hynod o odidog, megys y ben. iv. 1—7; a vii. 18—20. Cyfeirir at ei brophwydoliaeth yn Ier. xxvi. 18, 19 ; a dwywaith yn y Testament Newydd; Mat. ii. 5, 6 ; a Ioan vii. 42. PENNOD I. 1 Gair Iehofa, yr hwn a ddaeth at Mica y Morasthiad, yn nyddiau Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd Iowda, yr hwn a welodd am Samaria ac Ierusalem,— 2 Gwrandewch bobloedd,—bawb o honynt; Clyw, wlad, 'ie, oll sydd ynddi ;T— Bydd, 'ie, yr Arglwydd Iehofa yn eich erbyn yn dyst— Yr Arglwydd o deml ei sancteiddrwydd : 3 Canys wele Iehofa a ddaw allan o'i le; Ië, disgyn a cherdda ar uchelfanau 'r wlad ; 4 A thawdd y mynyddoedd tano, A'r glynoedd a ymholltant; 1 Yn lythyrenol, "ei llawnder." Nid y ddaear, sef y byd, a feddylir, ond gwlad Canaan, fel y dangos yr hyn a ganlyn—"yn eich erbyn." " Bydd, îe yr Arglwydd" &c, dyma'r hyn yr oeddent i wrandaw. Gwahodd yr holl lwythau, "y bobloedd;" ac er eu cynhyrfu yn fwy, enwa y wlad a'r hyn oll a gynnwysai: yr oeddent oll i ystyr- ied fod Duw yn dyst i'w herbyn. Yna darluniai yr hyn yr oedd Duw ar wneuthur yn yr adnodau a ganlynant. Hydref, 1853.] 2 o