Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ORIAU HAMDDENOL GYDA BEIRDD HEN A DIWEDDAR CYMRU. Iîhaid i'r ysgrifenydd gyfaddef ei fod yn dechreu ar y gwaith yr ymafla ynddo yn bresennol raewn ofn a dychryn. Teimla fod rhocldi barn deg ar feirdd a barddoniaeth yn un o'r gorchwyliou llenyddol anhawddaf ag y gellir meddwl am dano. Y niae y fí'aith fod gan bob dyn ei ragfarnau a'i ddewis-ddynion yn gwneuthur y gwaith yn anhawddach nag y dylai fod. Heblaw hyny, y mae chwaeth dynion yn amrywio cymaint, fel ag y mae yn anmhosibl cael dau ddyn i gydweled ynghylch teilyngdod barddoniaeth. Y mae mwy o gyd-darawiad hefyd yn ein meddwl tuag at natur athrylith rhai dynion na'u gilydd: ac y mae pob dyn diduedd yn rhwym o roddi ei farn ar gyfansoddiadau yn ol yr argraftiadau a gaiff eu darlleniad ar ei feddwl ef ei hunan. Ilhywbeth yn gyfatebol i hyn a deimlir wrth ym- weled â golygfeydd arddunol anian. Tybier, er anghraifft, fod pump o bersonau o wahanol oedran, dygiad i fyny, galwedigaeth, ac o wahanol chwaeth, yn dringo y Wyddfa gyda'u gilydd. Ar ol iddynt ddringo i'w chopa, dewisa un sylwi ac ymhoffi yn adeiladau penigamp Pont Menai a Phont Britannia; ynihoffa yr ail yn adfeilion hynafol a thyrau uchel castell Caernarfon; a sylwa y llall ar wyneb grisialaidd Llyn Llanberis, ar ba un yr adlewyrcha "Dychrys ac uthrol ochrau ysgylhrawg, A manau crebacu uwch meini cribawg;"— pryd y boddhëir un arall yn fwy wrth edryeh ar y chwarelau lleéhau, y rhai a ddwg i'w gof gyflawnder mawr adnoddau Cymru; ond tarewir yr olaf â syndod gan amrywiaeth y gwrthddrychau a welir, ac eangder y g°Jygfeydd. Dywed air ynghylch afon ddolenog Menai, a'i gororau, a gair arall ynghylch prydferthwch gwerddonau ynys Môn, yr hon sydd yn amgylchynedig o bob tu gan "ddyfroedd a moroedd mawrion," neu fe allai y gwelir ef yn syllu ar yr haul yn cilio o'r golwg ac yn gwneuthur ei ymadawiad trwy ddorau aur y gorllewin; edrycha ar y " Nos dywell yn dystewi—caddug Yn cuddio 'r Eryri; Yr haul yn ngwely 'r heli, A'r lloer yn arianu 'r lli." Ac fel y mae gwahanol olygiadau gan ddynion am olygfeydd anian, felly y canfyddwn yr un amrywiaeth yn ngolygiadau beirniaid am gyfansoddiadau barddonol. Ond cyn myned ymhellach, dymunwn i'r darllenydd ddeall, pa beth bynag a ddywedir genym am feirdd ein gwlad, ^m bod yn gwbl annibynol arnynt oll. Nis gwyddoin beth yw casau yr ÖORPHENAF, 1853.] T