Skip to main content

Y TRAETHODYDD. LLYFRYDDIAETH Y CYMRY. Fbl yr ydys yn myned ymlaen, ar ol y cyfnodau blaenorol y rhoisom eu hanes, y mae ein llyfrau yn amlhau. Nid oes un flwyddyn yn myned heibio heb fod cynnyrchion y wasg yn ymdywallt ar ein gwlad; a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn llyfrau gwerthfawr, gwir anghenrheidiol i'n cenedl. Yr ydym wedi dyfod tros gyfnod y Weriniaeth—y cyfnod mwyaf crefyddolyr ydym yn tybied a fu ar ein cenedl erioed, a'r hwn nad yw ein haneswyr crefyddol wedi gwneyd cyfiawnder âg ef; a dyma Siarl n. yn eistedd ar yr orsedd o'r hon yr hyrddiwyd ei dad. Am gryn amser, yr oedd sawyr yr oes a aeth heibio ar ein llenoriaeth, ond yn cael ei gymysgu â gweithiau nad oeddynt yn hollol efengylaidd. Gyda hyn o eiriau ni a awn rhagom. 1685. 1. " Gweddî yr Arglwydd wedi ei hegluro mewn amryw ymadroddion, neu Bregethau byrion. Gan G. Griflîth, 1).D. Esgob Llan-Elwy. Gan Gronw & Tudur, Rhydychen." 8plyg. Dywedir uchod " Gan Gronw a Tudur," yn ol Mr. Moses Williams; ond " At y Darllenydd," a arwyddir gan " William Foulkes, Llanfylling, Mawrth 2, 1684," flwyddyn cyn ei argraffu. Yr ydys wedi crybwyll rai gweithiau o'r blaen yn y chwarter diweddaf, am yr Esgob Griffîth. Fe allai y byddai yn briodol chwanegu yma dal- fyriad o'r hyn a ddywedir am dano yn " WilHs' Suroey of St. Asaph," ac " Wood Oxonian Athenw," ynghyd á pheth chwanegiad gan y cyhoeddwr, " William Foulkes, Llanfylling." George Griffith, S. T. P., a anwyd yn Penrhyn, sir Gaernarfon, Medi 30ain, 1610. Derbyniodd ei addysg yn ysgoldŷ Westminster. Etholwyd ef yn fyfyriwr o Eglwys Crist, yn 1619. Yr Esgob John Owen a'i cynnysgaethodd â phersoniaeth Llanfechain, yr hon a gyfnewidiodd wedi hyny am Lanymynech. Yr oedd hefyd yn berson Llandrinio, sir Drefaldwyn. Yn 1635, efe a raddiwyd yn D.D., agwnaed ef yn un o ganoniaid Eglwys Llanelwy. Yr oedd yn wrthwynebwr mawr i'r Weriniaeth, a bu ef a Vavasor Powell yn ysgrifenu cryn lawer yn erbyn eu gilydd ; sef rhif 1, 2, 3, 1652. Yr oedd ganddo law yn nghyhoeddiad yr un ar ddeg ar hugain o bregethau y Parch. William Strong, (gynt darlithiwr yn Westminster), yn gysylltiedig â'r Parch. John Rowe, a Thomas Manton. Cymerodd arno gyfieithu " Llyfr y Weddi Gyffredin " o'r newydd i'r Gymraeg; ond nid yw yn wybodus pa un a orphenodd ef ai peidio. Efe a gynnygiodd yn nghymanfa yr offeiriaid, yn 1640, am argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg; ond darfu i derfysgiadau y cyfnod hwnw roi attalfa ar allu yr offeiriaid i wneyd nemawr, ac yr oeddynt hwythau yn rhy ymlynol wrth eu plaid i Hydref, 1852.] 2 b .