Skip to main content

Y TRAETHODYDD. LLYFR Y PROPHWYD HOSEA. Prophwyd i'r deg llwyth oedd Hosea; a thybygir iddo brophwydo ynghylch triugain mlynedd! Ei gyfoedion yn Iowdea oeddynt Isaia a Mica; ac ymhlith y deg llwyth, Amos. Nis gwyddir dim am dano, ond ei fod yn " fab Beeri:" tebyg yr hanai o un o'r deg llwyth. Crynodeb yn ddiau o'i bregethau dros gymaint o amser yw yr hyn a gynnwysir yn ei lyfr, sylwedd o'r hyn a draddodasai. Gwelwn yma y pechodau o'r rhai yr oedd y deg llwyth yn euog ; eilun-addoliaeth a rwysgai yn benaf, a'i chymdeithion gwastadol, gormes, meddwdod, ac anlladrwydd. Un tra geirfyr o ran y modd o lefaru oedd Hosea, a buan yn fynyeh yw ei drwydded o un peth i'r llall: arfera hefyd eiriau ar eu penau eu hunain, fel testun i'r hyn a ganlyn, yr hyn a eilw Esgob Horsley yn enwai anym- ddibynol {nominatwe case absólute). Aml hefyd y cyfnewidia yr ansodion ti ac efe, chwi a hwynt; felly hefyd am y rhifau ti a chwi, efe a hwynt. Geilw Israel ti, gan olygu y genedl; a geilw Israel chwi, gan olygu y llwythau. Ond nid yw y pethau yn peri un dyryswch, pan ganfyddir rhaniadau yr araeth, yr hyn yw yr anhawsdra mwyaf. Gwelwn yma ddau beth yn enwedig, sef tuedd ddiymdro y bobl at eilun-addoliaeth, a hirymaros Duw tuag atynt. PENNOD I. 1 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usia, Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd Iowda, ac yn nyddiau Ieroboam, mab Ioas, brenin Israel. 2 Dechreu gair yr Arglwydd trwy Hosea oedd, pan ddywed- odd yr Arglwydd wrth Hosea,— Dos, cymer iti wraig buteinllyd a phlant puteinllyd î1 Canys gan buteinio puteinia y wlad, Yn hytrach na myned ar ol yr Arglwydd.2 3 Yna aeth a chymerodd Gomer, merch Diblaim; 1 Yn llythyrenol, " wraig puteinderau a phlant puteinderau." Sylweddeiriau a arferir yn aml yn yr Hebraeg yn lle yr ansawddeiriau. 2 Arwydda hyn yn eglur mai eilun-addoliaeth yw y puteindra yr oedd Israel yn euog o hono. " Yn hytrach,"—nid oeddynt yn dilyn yr Arglwydd, ond eilunod. O herwydd hyn, meddylia rhai mai wrth "wraig buteinllyd," &e., yr amcenir gwraig eilun-addol- gar : ond ni fyddai hyn yn arwyddnodi pechody bobl. 0 ran y wraig a'r plant, tuedd buteinllyd yn ei ystyr lythyrenol yn ddîau a feddylir. Tybia rhai i'r hyn a adroddir yma gymeryd lle yn wirioncddol, ond eraill a dybiant mai dychymyg yw, ncu yr hyn a amlygwyd i'r prophwyd mewn gwelcdigaeth. Oscysylltwn yrhyn a ddywedir yma â'r byn a gynnwys y drydedd bennod, yr ystyr olaf yw yr un mwyaf tebygol. GORPHENAF, 1852.] S