Skip to main content

Y TRAETHODYDD. ATHRYLITII A GWEITHION THOMAS EDWARDS, OR NANT. Ganwyd Thomas Edwards, o'r Nant, yn Mhen porchell isaf, Llannefydd, swydd Dinbycli, a bu ei r'ieni yn byw yn y lle a elwir Coed Siencyn. Ymddengys iddynt symud oddiyno yn fuan i le a elwir y Nant, ger Nant- glyn. Ni chafodd efe fawr o ysgol yn ei faboed; ond drwy fod ynddo awydd am lyfrau, dysgodd ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg heb lawer o gynnorthwy. Ysgrifenodd amryw gerddi a chwarëyddiaethau cyn cyrhaedd ei naw mlwydd oed. Sylwai rhai o'r cymydogion fod ynddo athrylith i ddysgu, ac annogent ei r'feni i'w anfon i'r ysgol i ddysgu Seisoneg; ac yn unol â'r cais hwn, cafodd fyned i'r ysgol i Ddinbych, y mae yn debyg, am bymthengnos. Nid ymddengys fod ei r'ieni ef, mwy na llaweroedd eraill oedd yn fyw y pryd hwnw, yn awyddus iawn am i'w plant drin llyfrau na phapyrau; ond ymwthio ymlaen a ddarfu iddo ef yn wyneb pob rhwystr. Daeth yn fuan yn gydnabyddus â dynion o'r un awydd ag yntau am brydyddiaeth, a bu yn ysgrifenydd achlysurol i un o'r cyfryw, oedd yn byw yn Mhentrefoelas, am yr hyn y derbyniodd englyn o waith hwnw fel cydnabyddiaeth am ei lafur. Byddai y gwr hwnw yn cyfansoddi cân, ac yn ei chofio nes y delai Thomas Edwards yno i'w hysgrifenu. Cyn cyrhaedd deuddeg oed, fe'i cymhellwyd gan lanciau o Nantglyn i fyned gycîa hwynt i chwareu, canys yr oedd ganddo lais da i ganu. Yn fuan wedi hyny cyfansoddodd chwarëyddiaeth ei hun, wedi ei sylfaenu ar " Briodas Ysbrydol" John Bunyan ; ond darfu i ry w lanc o sir Fon ladr- ata y gwaith hwnw oddiarno, yr hyn a fu agos a'i ddigaloni, a'i attal i gynnyg prydyddu drachefn. Bu yn chwareu gyda llanciau eraill o gylch Nantglyn, pan oedd tua thair ar ddeg oed. Yr oedd y son am dano, fel prydydd, yn dechreu cael ei daenu erbyn hyn, a'i dad a'i fam yn dychrynu rhag iddo wneyd ei hun yn destun gwawd yr holl gymydogaeth; ond nid allai dim ei luddias ef. Yr oedd wedi gwneyd chwarëyddiaeth o ben bwygilydd cyn bod yn bedair blwydd ar ddeg oed. Mynai ei ri'eni iddo ei Uosgi, ond gallodd ef gael rhyw fíbrdd i'w rhoddi i Hugh Jones, o Langwm, yr hwn a'i gwerth- odd am ddeg swllt; eithr ni chafodd Thomas Edwards ddim am dani, ond dyferyn o ddîod pan gyfarfyddai â'r chwarëyddion, weithiau. Nid oedd pethau fel hyn yn annogaethol iawn iddo i ddal i brydyddu; ond ymlaen yr oedd yn myned er pob digalondid. Yr oedd efe wedi cyfansoddi amryw chwarëyddiaethau cyn bod yn ugain mlwydd oed. Teimlai, yn ol ei gyf- addefiad ef ei hun, gryn euogrwydd cydwybod tua'r amser yma, a thaflodd gap y cybydd oedd ganddo dros ochr yr ysgraíF i afon Gonwy. Yr oedd Ebbill, 1852.] k