Skip to main content

Y TRAETHODYDD. LLYFRYDDIAETH Y CYMRY. Haeriad gwastadol rhyw fath o bobl yw, nad oes llyfrau yn yr iaith Gymraeg, na chan y Cymry;—mai cenedl anwybodus o farbariaid oedd ein cenedl ni hyd yn ddiweddar. Ond yr ydym yn barod i roi gwrtheb i'r haeriad, trwy rif o erthyglau a brofant fod mwy o lyfrau yn Nghymru nag un wlad arall o'i maint, a chymaint o hynafiaeth llyfrol yn perthyn i ni ag i genedloedd eraill, a llawer iawn mwy defnyddiol a sylweddol. Rhyfeddasom lawer gwaith mor anwybodus yw, nid estroniaid, ond llawer o ddynion darllengar ein gwlad ein hunain, o lyfryddiaeth ein gwlad a'n cenedl—na fedrant roi dim hysbysiad i estron a deimlo ddyddordeb i ymholi beth yw ein sefyllfa o berthynas i gyhoeddiadau a llyfrau yn yr iaith Gymraeg. Yr ydym er's rhai blyneddau wedi cymeryd cryn ddy- ddordeb i chwilio i hyn; ac yn y llithoedd a roddwn, ca y darllenydd ffrwyth ein llafur. Ceisiasom hyd oedd yn bosibl weled. y llyfrau yn ber- sonol, i'r hyn y mae genym, fe allai, fwy o fantais na'r cyfíredin. Mae yn briodol i'r ysgrifenydd gydnabod y cynnorthwy a gafodd gan ffrwyth llafur y rhai a aethant o'r blaen. Y cyntaf ydoedd y Parch. Moses Williams, ficcr Defynog, yn sir Frycheiniog, yr hwn a gyhoeddodd " Cofrestr o'r holl Lyfrau Printiedig, gan mwyaf a Gyfansoddwyd yn yr Iaith Gymraeg, neu a Gyfieithiwyd iddi hyd y Flwyddyn 1717—Pauperis est Numerare Pecus. Printiedig yn Llundain, gan Brintwyr y Brenin. 1717." Yn ei blaenori y mae y llythyrau canlynol:— " Y CYFLWYNIAD. 4,Atyr Anrhydeddm Richard Mostyn, o Penbedw, yn sir Ddìnbych. " Syr, " Ni ryfygaswn i gyflwyno erthyl mor afluniaidd ac anmherffaith a hwn i'ch ffafr chwi a'ch nodded, oni bai fod yn ddiammau gennyf fod eich cariad chwi at y Cymry mor fawr, nad oes le i betruso na chaiff y meredig hwn hefyd, er dielwed yw, ac yntau yn Gyinro, ei gynnwys, a'i gyíiawn groesawu, ym mhlas Penbedw. Mi wn yn rhy dda fod gormod, ysywaeth, o'm Cydwladwyr wedi gorffwyllo cymhelled yn ddiweddar, nad yw 'n gywilydd yn y byd ganddynt gablu a di- brisio hynny y mae pawb eraill agos o holl drigolion Ewropa yn cynfigennu wrthym o'i achos; ac odid mawr nad edrych y cyfryw ddynionach ar y gorchwyl bychanigyn ymma megis Gwrlhwaith ac Anoberi: eithr nid wyf 'n ammau na bydd eich esampl haelionus chwi a'ch tylwyth, ynghyd â'r eiddo eraill o Gym- efyd i roddi ei dyledus parch i'r hynaf a'r odidocaf o'r ieithoedd yny cwr jnnma i'r ddaear, a'i chadw a'i choleddu hi yn dra gwrolwych, drwy annog gwyr da Ionawr, 1852.1 B