Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BIBL PETER WILLIAMS. Yr ydym wedi cael yr hyfrydwch, o bryd i bryd, o gyfeirio ein darllen- wyr—nid mewn dull swta—at deithi a chynnwysiadau amryw lyfrau rhagorol a gyhoeddwyd yn Nghymru yn y ddwy ganrif ddiweddaf, ac ydynt, neu, yn wir, a ddylent fod, yn gymeradwy a phoblogaidd yn y dyddiau hyn. Yr ydym yn tybied yn ostyngedig mai nid lleiaf ymhlith gweithredoedd da y " Traethodydd" y cyfrifir y sylw a'r warogaeth a dalwyd ganddo i " Lyfr y Fieer "—Ysgrifeniadau Morgan Llwyd—" Llyfr yr Ym- arfer o Dduwioldeb"—Gwaith William Gurnal—Caniadau a Hymnau William Williams, Pant-y-celyn—a rhai hen lyfrau nodedig eraill. Yn mysg y cyfryw gymdeithion anrhydeddus, mae yn ddiau y cydnabyddir £od "Esboniad y Parch. Peter Williams"yn deilwng o le arbenig. Dyma hen Fibl Teuluaidd ein tadau, ac y mae yn cadw ei orsedd fel y cyfryw gyda ninnau. Y mae wedi cyrhaedd oedran teg, o herwydd y mae weithiah di'os bedwar ugain mlynedd er pan y daeth allan gyntaf. Yr oedd y pryd hyny brinder mawr o Fiblau yn y wlad, tra nad oedd yr un math o esbon- iad ar yr Ysgrythyrau wedi ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Ychydig iawn o'r Cymry, mewn cymhariaeth, oedd yn medru darllen. Nid oedd Ysgolion Sabbothol eto wedi eu cychwyn. Yr oedd Cymru, mewn cyfer- byniad i'w rhifedi heddyw, yn anaml ei thrigolion, ac yn llawer anamlach ei chrefyddwyr. Yr oedd rhai gwŷr o ddylanwad, megys y mae eto, yn darogan dinystr buan y Gymraeg, ac yn dadieu na ddylasid dosbarthu ond Biblau Seisonig i'r werin Gymreig. Yn y fath amser, mae yn rhaid mai antur bwysig i un person ydoedd cyhoeddi yn y Gymraeg Fibl mawr pedwar-plyg, heb son am y llafur dygn o ysgrifenu sylwadau ar bob pen- nod. Ond yr oedd Peter Williams yn ddiarebol am ei ddewrder yn gystal ag am ei fedr. Mewn hen bennill sathredig yn y Deheudir, fe ddynodir " calon Pedr " yn flaenaf o'r " pum peth wna bregethwr galant"1 Yr oedd ei gyfeillion ar y cyntaf yn barod i feddwl mai rhyfyg oedd iddo ymgymeryd â'r gorchwyl; ond efe a ymroes ato yn wrol, ac a'i cyflawnodd yn deg, yn nghanol eu syndod a'u hawddammoredd. Gwrandawer arno ef ei hun yn adrodd amgylchiadau ei anturiaeth:— "Y mae mor anghenrhaid, tybygaf, i'r Cymry wrth agcriadau ar y Bibl ag i'r Saeson. Mae ein hanwybodaeth cymaint a'r eiddynt hwythau, a'n heneidiau yn gwbl mor werthfawr. A phaham na buasai rhywrai yn dodi esboniad byr ar y Bibl 1 Gwel " Traethodydd " am y flwyddyn 1849 : tudal. 378. Erthygl: "Dafydd Jones o Gaio." GORPHENAF, 1851.] V