Skip to main content

à- Y TRAETHODYDD. Y FEDDYGINIAETH. Nid ychydig yw rliifedi y rliai hyny sydd yn teimlo yn y dyddiau liyn fod rhyw afiecliyd marwol wedi ymaflyd yn y byd yr ydym yn byw ynddo; ac nid llawer llai yw rhifedi y rhái sydd yn gwneyd a allont, mewn amryw- iol ffyrdd, tuag at ei feddyginiaethu. Pe gofynid i ni, pa beth yw yr hynodrwydd goreu sydd yn perthyn i'r oes hon uwclüaw yr oesoedd o'r blaen, nis gwyddom pa fodd i ateb yh fwy cywir na thrwy ddyweyd ei bod mewn modd arbenig yn oes y gweithrediadau. Ni fu dyngarwch niewn unrhyw fturf, pa un bynag ai mewn ymdrech i daenu gwybodaeth a moes- oldeb, neu mewn tosturi at gleifion a thlodion, erioed yn rhan o grefyddau paganaidd y byd. • O grefydd y Bibl y tarddodd pob sefydliadau a threfn- iadau at lesâu dynolryw, yn dymmorol yn gystal ag yn ysbrydol. Ond oddieithr yn mysg y Cristionogion boreuaf, mae yn ammhëus a fu yr ysbryd hwn mewn un oes yn fwy gweithgar nag yw yn awr. Yn y dyddiau hyn, y mae gwlad a thref yn llawn berw a bywyd gyda rhyw ymdrechiadau beunyddiol i wneuthur daioni. Y cymdeithasau dyngarol ydynt bron yn aneirif; a phob mis, neu yn amlach na hyny, dygir rhyw gynnygiad newydd dan ein sylw. Mae y byd wedi ei ddadgymalu, ac y mae yn agos i bob dyn a dynes yn ystyried eu bod hwy wedi eu galw a'u haddasu i osod pob cymal yn ei le. Er y dymunem fod llai o swn ac ym- ffrost yn eydfyned â'r gweithrediadau hyn, eto pell ydym öddiwrth eu d'iystyru. Oes dda yw 'r oes hon wedi 'r cwbl. Y mae pethau mawr a rhyfedd yn cael eu gwneuthur ynddi, a phethau llawer mwya rhyfeddach i gael eu gwneuthur cyn iddi fyned heibio. Wrth fod arnom gymaint o alwadau, er y gallant fod i gyd o d'uedd ddaionus, eto gan na fedrwn roddi ein holl egni o blaid y cwbl, y mae yn weddus i ni ymofyn pa rai yw y goreu, a pha rai o ganlyniad sydd yn haeddu mwyaf o gydweithrediad. Er mwyn cael atebiad cywir i'r gofyn- iad hwn, fe allai mai nid anaddas fyddai rhanu holl ÿmdrechiadau daionus yr oes yn ddau ddosbarth : yn gyntaf, y rhai sydd yn amcanu at wella amgylchiadau dynion; ac yn ail, y rhai sydd yn amcanu at wella y dynion eu hunain. Er fod cysylltiad rhwng y ddau ddosbarth â'u gilydd, oblegid fod yr amgylchiadau yn dylanwadu ar y dynion, y mae yn ymddangos i ni ar yr un pryd mai y rhai olaf sydd yn myned at wraidd y drwg, ae yn Sebyg o fod yn fwyaf ëffeitniol. Y mae rhÉ aẅdwyr yn sylwi fod pob anhaws- | der duwinyddol, wrth ei olrhain, yn ein harwain at ddechreuad drwg moesol: pa fodd bjnag am hyny, mae yn ddiau mai dyma ffynnonell pob Ionawr, 18.51.] b