Skip to main content

Y TRAETHODYDD. DANIEL ROWLANDS, A'I AMSERAU. Un o'r pethau sydd yn hynodi yr oes hon, ydyw y di*afFerth a gymer i geisio gwneuthur cyfiawnder âg enwogion yr oesoedd blaenorol. Ac nid oes arwydd gwell ar oes, mwy nag ar ddyn, na'i gweled yn gallu prisio yr hyn oedd ragorol yn y rhai hyny a fu o'i blaen; oblegid os nad all ganfod rhagoriaethau y dyddiau gynt, y mae yn dra thebyg na bydd iddi ychwaith ysgöi eu gwallau. Nìd ydyw mawrion y ddaear yn gyffredin yn cael cyfiawnder nes ei gadael. Dywedai Bacon wrtb. farw, ei fod yn cyflwyno ei gymeriad i'w olynwyr, gan awgrymu drwy hyny nad ydoedd yn dysgwyl cyfiawnder gan ei gydoeswyr: a mynych y mae yn dygwydd mai y rhai a fydd heb weled wynebau niawrion y byd yn y cnawd, fydd yn eu hadwaen oreu, ac yn gallu dywedyd egluraf wrth eraill pa fath oeddynt. Fe all gwrthddrych, mewn ystyr naturiol, fod yn rhy agos fel yn rhy bell i'w weled; felly yn myd y meddwl, gellir bod yn rhy agos fel yn rhy bell i weled un yn gywir, a'i farnu yn gyfiawn. Y mae mor hawdd gwyro ein barn ynghylch personau a phethau, fel mai camp ydyw cael ateb cywir i'r gofyniad, Beth yw gwirionedd ? mewn perthynas iddynt. Nid all ond y rhai hyny, sydd yn meddu ar raddau o'r un peth a'r dyn mawr, ei adwaen na'i ddesgrifio; ond y mae rhagfarn a chenfigen tuag ato oblegid ei fawredd yn aml yn eu hattal i'w weled fel y mae; fel nid yn unig nis mynant, ond nas gallant o'u plegid ei ddesgrifio i eraill. Ond wedi iddo farw, gellir edrych ar ei fawredd heb i'r mawredd hwnw dd'od i ymgystadlaeth âg un- rhyw fawredd y tybia yr edrychwyr sydd yn perthyn iddynt hwy; ac un i fil na chaiff gyfiawnder ganddynt. Y mae mawrion y byd, fel y patriarch Abraham, wedi derbyn addewid am etifeddiaeth ; ond fel yntau bron oll yn marw heb dderbyn y cyflawniad : ond fe bâr rliagluniaeth y nef i bethau gydweithio fel ag i'w chyflawni yn hwyr neu yn hwyrach. Os edrychir arnynt yn hir gyda dirmyg fel yr edrychwyd ar hiliogaeth Abraham, sicr ydyw y gwawria y dydd y cânt eu hawl. Bu Cromwell yn cael ei gablu am oesoedd ; ond o'r diwedd y mae pawb, ond y rhai hyny sydd mor ddall fel na fynant weled, yn ei gydnabod yn ddyn mawr ac yn ddyn da—yn un o'r tywysogion mwyaf galluog a fu erioed yn eLstedd ar orsedd Prydain, ac yn un o'r cristionogion goreu a fu yn addurno eglwys Dduw. Y mae genyin y fantais a rydd pellcier i ffurfio barn gywù* am Daniel Rowlands, y dyn hynod yr ydym am alw sylw ato yn awr. Wrth wneuthur hyn, nid ydym heb deimlo yn ddwys fawredd ac anhawsderau y testun, nac [GORPHENAF, 1850.] ' U