Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. JONES O LANGAN, A'I AMSERAU. Yr ydym wedi hen ryfeddu bellach na byddai ymhlith holl lyfrau Cymru, ìyfr o'r enw " Hanes Bywyd y Parcli. David Jones, o Langan." Diau y dylasai fod, ac y dylasai erbyn hyn fod wedi myned trwy ryw hanner dwsin o argraffiadau. Pa beth yw yr achos o'r diflỳg hwn ? Gallem briodoli y fí'aith i'r achos hwn, yr achos arall, neu yr achos acw ; ond ni byddai hyny amgen na gwastraflu amser, a llafur, a phapyr, ac inc i ddim dyben. Ond y mae dau beth yn ddigon amlwg; yn gyntaf, Fod Mr. Jones yn deilwng o gofiant wedi ei argraöu niewn llythyrenau aur ar ddalenau arian, ac wedi ei gyfansoddi gan yr athrylith penaf yn ngwlad GwaÌia: ac yn ail, Nad oes gofiant iddo o un math i gael yn Gymraeg, ond rhyw bedair tudalen mewn cyhoeddiad nfisol, anghyhoeddus o'r fath anghyhoeddusaf. Na feddylied neb wrth yr hyn yr ydym yn ei ddy- wedyd, ein bod ni yn tybied y gallwn wneuthur perffaith gyfiawnder â chofíadwriaeth Jones o Langan. Nid ydym yn dychymygu y gallwn ni ar hyn o bryd gyflenwi diffÿgion deugain mlynedd, a gosod ei goffadwr- iaeth ar yr un tir a phe buasai rhyw feddwl galluog wedi cymeryd at y gorchwyl yn mlien tair wythnos wedi ei gladdedigaeth. Nid oes genym fwy na mwy o hyder yn em galluoedd; ond gwyddom pe buasem wedi bod yn byw am ddeng mlynedd ar y gwastadedd rhwng mynydd Eglwys Fair a chastell Penllin, ar amser y cyrchu mawr i Langan—pe buasem wedi clywed yr hen dad parchedig yn adsain yr hen eglwys rai ugeiniau o weithiau — pe buasem wedi cydfarchogaeth âg ef a Thomas Dafydd, Thomas Siôn o'r Splot, Thomas Jones o'r Picad, a William Thomas o'r Prysg, o'r gymdeithasfa, a chlywed eu hymddyddanion ar y Ôbrdd ; y buasai genym well mantais. Ond " fel y mae," gwnawn ein goreu i roddi mwy o wybodaeth am hanes a chymeriad Mr. Jones o flaen ehi darllen- wyr, nag y mae y rhan fwyaf fo honynt yn ei feddiannu eisoes, ac wrth nyny gyfodi colofn i'w goffadwriaeth ef mewn man ag y bydd yn ddiogel rhag syrthio i ddyddymdra yn yr oes hon na'r nesaf. Yr oedd Mr. Jones yn un o'r dynion hyny ag y bydd dynolryw yn chwennych clywed am, a gweled, o bydd bosibl, le eu genedigaeth. Mawr yw y twrf a wneir ynghylch genedigaeth rhai pobl; gellid meddwl wrth y llawenychu, y gwledda, y sŵn, y saethu, a'r canu clych, fod sicr- wydd diammheuol wedi ei gael o rywle fod y gŵr newydd eni i fod yn adgenedlydd i'r dynol deulu—yn burwr y byd o bob gofid a gwae. [Ebrill, 1850.] l