Skip to main content

Y TRAETHODYDD. JOHN BUNYAN. Wedi i ni mewn dau rifyn blaenorol roddi hanes bywyd y dyn hynodhwn, cawn yn awr, yn óì ein haddewid, gyfeirio yn benaf at ei athrylith a'i ysgrif- eniadau, gan gofnodi y rhai hyny a gyfieithwyd i'r Gymraeg. Mae yn niwedd yr " Helaethrwydd o Ras," ddarluniad byr o Mr. Bunyan, o ran ei berson a'i gymeriad. Mae yn rhedeg yn y dull canlynol:—" Yr oedd ymddangosiad ei wynebpryd yn arwyddo ei fod o dymher sarug a gerwin, ond yn ei ymarweddiad yr oedd yn llariaidd a chyweithas. Yn ei gyfeillach, nid oedd yn chwedleugar a siaradus, oni byddai rhyw achos o bwys yn gofyn hyny. Gofalai bob amser rhag ymffrostio o hono ei hun na'i alluoedd, eithr yn hytrach ymddangosai yn isel yn ei olwg ei hun, ac ymddarostyngai i farn eraill, gan ffieiddio celwydd a thyngu, a bod yn gywir hyd y byddai yn ei allu i'w air, yn ann'ialgar, yn gymmodlawn, yn gyfeillgar â phawb. Yr oedd ei lygad yn llym a bywiog, yn gydfynedol â chraffder rhagorol i adnabod dynion, gan ei fod yn berchen ar farn dda a deall cyflym. O ran ei berson, yr ydoedd yn dâl, yn asgyrnog, ond nid yn dew, ei wynebpryd braidd yn wridog, gydag edrychiad tanbaid, ac yn gwisgo ei farf ar ei wefus uchaf yn ol yr hen arfer Brydeinaidd. Rhudd- goch oedd ei wallt, ond yr oedd penllwydni wedi ei fritho yn ei ddyddiau diweddaf. Yr oedd ei drwyn wedi ei osod yn dda, heb fod yn gam na chrwm, a'i enau o ganolig faint; a'i dalcen braidd yn uchel, a'i ddiwyg bob amser yn syml a Uednais." " Tri nodwedd gwych oedd ynddo 'n goeth, Hanesydd, bardd, duwinydd doeth; Gorphwysed yn y llwch lle mae, Nes adgyfodo'r cyfiawn rai." Yr oedd Bunyan yn ddiau yn meddu ar athrylith o'r fath hynotaf. Ammheu hyn a fyddai yn fursendod, ei wadu yn berffaith ynfydrwydd. Ar y cyntaf, anwyl-ddyn y werin ydoedd; y mae erbyn heddyw yn syndod dysgedigion. Rhaid fod ei deilyngdod yn dwyn argyhoeddiad grymus i'w ganlyn, pan yr ennillai ganmoliaeth y Dr. Johnson a Dr. Southey, er gwaethaf eu rhagfarn yn erbyn Anghydffurfiaeth; a chlod Syr Walter Scott ac Arglwydd Byron, er maint eu dygasedd at grefydd efengylaidd. Bod y fath wŷr a Coleridge a Macauley, Franklin a Macintosh, wedi dangos gradd o archwaeth at ysbrydólion " Taith y Pererin," ynghyd â'i Saesoneg bur, a'i ddynsodiadau bywiog, nid yw amgen nag a allesid ei ddysgwyl oddiwrth eu cydnabyddiaeth foreuol â'r Bibl, ac â phobl yn meddu llawer o gariad Bunyan at y Bibl. Tueddiadau cydnaws fel prydydd ac Hydref, 1849.3 2 e