Skip to main content

J*o*\ Y TRAETHODYDD. CHWYLDROADAU Y FLWYDDYN 1848. Y mae y byd yn awr newydd gael gwers na lwyr anghofia byth mo honi. Cafodd y cenedloedd faníeision i weled "fod Duw a farna ar y ddaear," na chawsent ond anfynych eu cyíFelyb erioed o'r blaen. Bydd enw y flwyddyn 1848 yn hynod hyd derfyn rhifiad blyneddau amser. "Y rhai a ddeuant ar ol a synant o herwydd ei dydd hi, a'r rhai o'r blaen," (y pro- phwydi i'r rhai y rhagddangosid ei dygwyddiadau) "a gawsant fraw." Ysgrifenir a darllenir hanes ei goruchwyliaeth.au mawrion " hyd y dydd diweddaf yn oes oesoedd." Blwyddyn dechreuad cyfnod newydd ar am- gylchiadau y byd (Ewropaidd o leiaf) ydoedd, a dechreuad eyfnod newydd ar amgylchiadau crefydd a chyflwr ysbrydol y byd, yn gystal a hyny. Tra y byddo "y deyrnas nid yw o'r byd hwn" yn y byd hwn, yn mysg ei deyrnasoedd, bydd gan bob cyffröad a chyfnewidiad a ddygwyddo ynddynt hwy ddylanwad effeithiol ar ei hamgylchiadau hithau. " Blwyddyn taled- igaeth yn achos Sîon," mewn modd nodedig, oedd y flwyddyn ddiweddaf; blwyddyn y pwyntiai bys prophwydoliaeth ati yn ddiysgog er ys cannoedd o flyneddau fel tymmor cyflawniad rhai o'i phethau mwyaf pwysig; y flwyddyn yr agorodd yr Oen un o'r séliau, a'r ehweched, o bosibl, ac y tywalltodd un o angelion y saith bla diweddaf ei phiol, neu gyfran o honi, a'r seithfed, fel yr ymddengys i ni, ac y cawn, efallai, eto ddangos y rhes- ymau a'n tueddant i'r golygiad hwn. Swn drylliad gorseddau, syrthiad coronau, chwaliad hen sefydliadau gwladwriaethol—dynoethiad seiliau mynyddau tragywyddol—crymiad penau bryniau oesol—trwst ffoedigaeth breninoedd, penaethiaid, a chedyrn y ddaear, rhag ofn cynddaredd eu deiliaid—y chwyldroadau mawrion ac ofnadwy a ysgydwent yr holl Gyf- andir o'i ganolbwynt hycl ei amgylchoedd—y cyffroad aruthrol a dreiddiai fel gwefriaeth drwy holl gyfansoddiad cyradeithas—yr ysbrydiaeth newydd a dyeithr a ddisgynai fel hylif tanllyd ar feddyliau gwerin Ewrop yn mhob gwlad ar unwaith ymron, oni chyfodent fel cynnifer o Samsoniaid, gan ymysgwyd mor orchestol nes tòri pob rhwymau, a dryllio pob attalfeuon a safent yn eu ffordd—dygwyddiadau o'rfath hyn, meddwn, a hynodant enw a choffadwriaeth y flwyddyn 1848 hyd byth. Y mae chwyldroad gwladwriaethol yn dwyn llawer o gyffelybrwydd i'r dygwyddiad mwyaf arswydlawn hwnw yn natur, y ddaeargryn. Dan y cyffelybrwydd h'wn y llefara prophwydoliaeth yr ysgrythyrau am dano agos GoiìPHENAF, 1849.]' " T