Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CYMHWYSDERAU A GWAITH Y WEINIDOGAETH. CYNGHOR A DRADDODWYD AR ORDEINIAD GWEINIDOGION. Mae cynghori, yn enwedig mewn rhyw ddull ffurfiol fel yma, yn orchwyl ag yr ydym ni yn wastad yn teimlo gradd o gywilydd i ymaflyd ynddo. Nid yn unig o herwydd anghymhwysder i'w gyflawni, ond hefyd, o her- wydd fod rhoddi cynghor yn cynnwys ynddo ryw dybiaeth fod y neb sydd yn ei weinyddu yn rhagori mewn profiad a gwybodaeth ar y rhai sydd yn ei dderbyn. Yr ydys yn barod i feddwl mai yr hwn sydd leiaf a gynghorir gan ei well. Mae hyn yn ddigon i beri i ddyn ag sydd yn adnabod dim o hono ei hunan i deimlo yn gywilyddgar; ac yn fwy felly wrth gynghori rhai hŷn mewn dyddiau, neu fwy eu galluoedd nag ef ei hun. Ond wedi y cyfan, nid yw hon ond un o ddyledswyddau y frawdoliaeth efeng- ylaidd ; mae pawb yma iV chyflawni tuag at eu gilydd; ac y mae y doeth yn aml, mewn amgylchiadau, ag y dichon cyfarwyddyd neu gynghor ei îs- radd ar bob cyfrifon fod o wasanaeth mawr iddo. Fel eieh cydlafurwyr, gan hyny, frodyr, yr ydym ni yn awr yn dymuno eich cyfarch gyda serch a gostyngeiddrwydd, a chyflawni un o'r dyledswyddau ag y geliwch chwi- thau eto yn eich tro, mewn rhyw ddull, ac ar ryw achlysur neu gilydd, fod yn rhwyni i'w chyflawni tuag atom ninnau, yn ol y cyfarwyddyd apostol- aidd, " Cynghorwch eich gilydd bob dydd, tra y gelwir hi heddyw." Er wrth wneyd sylwadau amrywiol, nad yw yn bosibl i ni gyfyngu ein hunain at un gair neillduol fel testun; eto ni a ddymunem yn gyntaf dim eich cyfeirio at y darluniad apostolaidd o gynneddfau ac ysbryd gweinidogion yr efengyl. ■ Dywedir yno, fod yn rhaid eu bod hwy yn cyfatebi'r darlun- iad hwnw. Nid oes neb ond dynion o'r nodau hyny i'w gosod yn y swydd. Ac os nad ydym yn mawr gamgymeryd, prin y gellir dysgwyl cael dyn o'r eymeriad perffaith a ofynir gan yr apostol, heb fod tri pheth yn cydgyfar- fod ynddo i ryw fesur : natur, amaethiad, a gras. Mae dynion yn eu zel dros unrhyw beth ag a fydd ynbenaf yn eu golwg hwy, yn aml yn anghofio rhoi eu lle dyladwy i bethau eraill. Y cwbl bron, dybygid, mae rhai yn ei ymofyn yn yr ymgeisydd am y weinidogaeth, ydyw dysgeidiaeth ddynol; tra mae eraill drachefn, yn eu gofal am bethau uwch, yn esgeuluso, os nad yn diystyru, addurniadau o'r natur hono. Os ceir dyn yn dduwiol, nid ydys yn edrych cymaint pafathun ydywfel dyn, o ran grym cynneddfau naturiol a graddau ei fanteision. " Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo oddiuchod." Tra yrydym ni yn llwyr gredu, fod yn Nghymru ei hunan ddigon o brofion, nad ydyw dwyn dyn drwy gwrs rheolaidd o efrydiaeth, nac un ffordd neillduol o ordeiniad, yn abl i wneutbur gweinidog eôeithiol yr efengyl, a bod gras a Ebrill, 1849.] l