Skip to main content

Y TRAETHODYDD. GWLADWRIAETH ISRAEL. Yr oedd yn perthyn i wladwriaeth Israel élfenau na pherthynai i un wlad- wriaeth arall, mewn un oes na gwlad. Y mae ei hynodrwydd gan hyny yn deilwng o sylw, pe na b'ai arni un enwogrwydd arall. Ond i chwiliwr yr ysgrythyrau, y mae yn fwy dyddorawl fyth, oblegid fod cyfeiriad gwas- tadol ynddynt at ei deddfaú a'i dyben, nodweddiad ei deiliaid, a hanesiaeth ei hamgylchiadau. Nid oes modd dëall yr Hen Destament yn gywir heb ddirnadaeth deg am ffurf y Uywodraeth yr oedd Israel yn ddeiliaid iddi; a llawer cyfundraeth anghywir a seiliwyd ar gamsyniad am ei natur a'i dy- ben. Yn gyffredinol nid yw darllenydd yr Hen Destament yn meddu ond gwybodaeth tra arwynebol am yr hanesiaeth sydd ynddo, tra y byddo yn anghydnabyddus â'r egwyddorion y sylfaenid y gyfundrefn hon arnynt, ac â'r dybenion ag oedd i'w hateb trwyddi. Mae rhai ysgrifenwyr Crist- ionogol wedi methu trwy olygu y cyfansoddiad yr oedd Israel dano, yn ormodol, fel sefydliad crefyddol yn unig; a chan eraill edrychir arno fel un gwladol yn unig; a chan rai eraill cymerir ef yn ffurf wrth ba un y dylid uno y wlad a'r eglwys wrth eu gilydd. Nid rhyfedd ynte, lle mae cymaint o wahaniaeth barn, na fydd llawer o gamsyniadau. Yn yr amser y sefydlodd yr Arglwydd y Theocracy* Iuddewig yr òedd yr holl fyd ymron we"di " ymroi i eilunod." Yr oedd tua dwy fil a hanner o oes y byd wedi myned heibio. Yn ystod yr amsermaith hwn, rhoddasid prawf o effeithiolrwydd y ffurf Batriarchaidd i gadw gwybodaeth o Dduw yn y byd. Clymwyd crefydd yn yr yspaid hyny wrth berthynas ac awdur- dod natur. Gwasgwyd hi ar y teulu gan awdurdod y pen, ac ar y plant gan dynerwch y tad, ac ar yr ieuanc gan brofiad yr hen. Gallesid meddwl fod yma awyr iach iddi, a.thir cynnyrchiol; eto gwywo a wnaeth, nes ei bod ymron diflanu. Yn yr adeg hon, parotôdd yr Arglwydd tuag at ffurf newydd trwy neillduad y patriarchiaid, Abraham, Isaac, a Jacob, iddoeihun. Rhoes amlygiadau neillduol iddynt o hono ei hunan, addawodd fod iddynt yn Dduw, a galwai arnynt hwythau i'w addoli ef fel Duw, ac ef yn unig* Dyma wreiddyn y genedl y gwelodd Duw yn dda fod ei hun yn frenin gwladol arni, ac i osod i fynu ei enw a'i addoliad o'i mewn. Fe wawriodd yr amser bellach ag y mynai yr Arglwydd roddi amlygiadau helaethach a mwy mawreddig o hono ei hun, fel moddion anghenrheidiol i wrthweithio dirywiad'anfad a chyffredinol dynolryw. Gwnaethai hyny mewn gradd eispes mewn teuluoedd, ond nid oedd hyny yn ddigon cyhoeddus i ateb y dyben ag oedd bellach i gael ei ateb. Pa argrafiìadau bynag a wneid ar 1 Fe gyfansoddir y. gair hwn o'r geiriau Groeg, Theos, Duw, a cratos, ltywodraeth, ac a arwydda Duw-lywiaeth. HYDREF, 1848.J 2 d