Skip to main content

Y TRAETHODYDD. HAD ABRAHAM YN FENDITH I'R BYD. " Yn dy had di y bendithir holl genedloedd y ddaear." Gen. xxii. 18. Nid oes un genedl dan haul nior hynod a elienedl Israel. Mae iddi nod- tveddiadau na pherthynant i neb arall; a'r nodweddiad a ddyry yr hynod- •rwydd penaf arni ydy w ei pherthynas neillduol â Duw ac â'i enw. Codwyd enwau rhai dynion i fynu fel tadau celfyddyd, neu sylfaenwyr dinasoedd. Hynodwyd eraill gan faint eu cyfoeth, ëangder eu llywodraeth, neu hel- aethrwydd eu dysgeidiaeth. Ennillodd rhai enw a chlod trwy fedrusrwydd milwraidd a gwychder eu buddugoliaethau. Ond hynodwyd yr Hebreaid yn arbenig o herwydd eu cysylltiad â chyfammod Duw. Mae hanes y genedl hon, gan hyny, yn llawn dyddoreb ac addysg i'r cristion, ac i chwil- iwr yr ysgrythyrau. Nid nad oes yn hanes y genedl hon lawer o bethau i d<lifyru yr hynafiaethydd, ac i osod galluoedd yr hanesydd ar waith ; eto, ar gyfrif ei chysylltiad â'r gwir Dduw, ac â'i air, ac â Gwaredwr pechad- uriaid, y mae yn fwyaf hynod ; —oddi yma yr etifedda ei phrif cnwog- rwydd. Mae yr holl Fibl, ymron, yn blethedig â hanes had Abraham. Os rhoddir hanes teuluoedd yn yr ysgrythyrau, teuluoedd yn Israel, gan mwyaf, a fyddant. Os am freninoedd a phrophwydi y sonir, breninoedd a phro- phwydi yn Israel fyddant. Pan crybwyllir am wyrthiau, o'u plaid hwy, ond odid, y byddant; neu am farnedigaethau, arnynt hwy, ond odid, y disgynant, neu ar eraill o'u hachos hwy. Os prophwydoliaethau a dra- ddodir, ni a gawn y bydd cyfeiriad neillduol ynddynt at Israel. Rhaid, gan hyny, y bydd dyddoreb neillduol yn hanes ac amgylchiadau }r bobl hyn, tra y bydd paich i'r Bibl, a thynerwch at Dduw a'i air. Ganddynt hwy yr ysgrifenwyd llyfrau yr ysgrythyr, ac iddynt hwy yr ymddiriedwyd am ymadroddion Duw. Pwy na theimlai agosrwydd at yr luddew oblegid yr ystyriaethau hyn ? " Caredigion ydynt oblegid y tadau." Mae enwau Abraham, Isaac, a Jacob ar ein gwefusau ac yn ein calonau. Mae llyfrau Moses, Salmau Dafydd, Diarcbion Solomon, ac ysgrythyrau y prophwydi yri ymgordeddu yn ein serchiadau; yr un modd hefyd, hanesiaeth yr efengylwyr, a llytliyrau yr apostolion ; ac yn anad dim ni a deimlwn yn serchog tuag at yr Iuddewon, am mai o'r cyff hwn yr hanodd ein Ilar- glwydd ni, " yr Hwn sydd Dduw bendigedig yn oes oesoedd." Trwy y genedl hon yr amlygodd yr Arglwydd ei hun i ddynion. Hwynt- hwy bcddynt " ei dystion ef. Iddynt hwy yn gyntaf v rhoddes Duw ei [GORPHENAF, 1848.] ~ ¥