Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

240 ADRODDIADAU Y DIRPRWYWYR. Pan yn ymaflyd yn y gorchwyl o ysgrifio ein sylwadau ar " Addysg yn Nghymru" erbyn y rhifyn diw.eddaf, nid oeddym ond newydd dderbyn yr Adroddiadau, ac hyd y gwyddom nid oedd unrhyw feirniadaeth wedi ymddangos o berthynas iddynt yn y Dywysogaeth, oddieithr un neu ddwy o erthyglau gwael, gwan, a gwantan, mewn Papyryn a gyhoeddir yn y Deheudir. Ond er nad oeddym wedi cael hamdden i'w darllen yn fanwl, yr oedd yr olwg gyntaf yn ddigon i'n hargyhoeddi y dylasem ddyfod allan yn fwy penderfynol ac egnîol na'r Papyryn rhag-grybwylledig. Yr oedd- ym yn gweled ac yn teimlo fod y Dirprwywyr wedi gwneyd cam dirfawr â ni fel cenedl; a chymerasom ein rhyddid i ddyweyd hyny yn eofn ac yn wrol. Ond ar yr un pryd nid oeddym yn ystyried fod genym ni hawl i farnu eu dybenion, a chymerasom ofal i hysbysu nad oeddym yn eu ey- huddo o ddwyn camdystiolaeth fwriadol. Y mae yn dda genym, wrth edrych yn ol, i ni ymgadw o fewn y terfynau hyn ; ac nid ydym eto yn gweled anghenrheidrwydd i fyned un cam ymhellach. Trosedd mawr yn nghyfrif rhai fyddai son fod y fath beth yn ddichonadwy ag i'r Dirprwy- wyr hyn fod i ryw raddau yn well na Beelzebub ei hun. Ond nid yw eithafion o'r natur yma yn effeithio dim namyn i beri gwrthdarawiad cryf- ach yn mhlaid y Dirprwywyr a'u Hadroddiadau, o'r hyn y mae genym anghraiflìt eisoes yn y " British Banner." Beth sydd a fynom ni â chwilio eu calonau ? Rhyngddynt hwy a'u dybenion—ein gwaith ni yw barnu gwir- ionedd eu tystiolaethau. Yr un peth yn ein bryd ni fyddai cyhuddo dyn o lofruddiaeth neu ladrad, a'i gyhuddo o gelwydd gwirfoddol. " Pan glywaf ddyn yn tystiolaethu yr hyn nid yw wir," meddai Dr. Johnson, " y mae yn ddigon genyf hysbysu iddo, Yr ydych yn dyweyd celwydd, syr : ond os byddaf mewn natur ddrwg, byddaf yn ei gyfarch fel hyn, Yr ydych yn dyweyd celwydd, syr ; ac yr ydych yn gwybod eich bod yn dyweyd cel- wydd." Ond nid oeddym ni wrth gyfansoddi yr ysgrif o'r blaen, ac nid ydym yn awr, mewn natur ddrwg ; gan hyny, nid oes eisieu i ni fyned ymhellach na hysbysu fod y Dirprwywyr wedi dyweyd celwydd, heb gy- meryd arnom benderfynu pa un a oeddynt yn gwneuthur hyny yn fwriadol ai peidio. Yr ydym yn deall fod rhai yn tueddu i'n beio, pe gwyddent pa fodd, am addef fod peth gwirionedd yn yr Adroddiadau. Ond yn lle galw hyn yn ol, yr ydym yn barod i'w ail-ddyweyd; ac nid hyny yn unig, ond dy- munem ei wasgu yn ddwysach eto at feddyliau ein darllenwyr. Yr ydym yn addef, ac hefyd wedi hòni yn y modd cadarnaf, fod ein cenedl ar y cyfan yn rhagori ar un genedl arall: ond nid barnu ein hunain mewn cymhar- iaeth i eraill a weddai fod ein rheol; ond yn hytrach ymofyn pa beth ydym wrth yr hyn a ddylem fod. Hoff genym ni hen arwyddair y Cymry, " Y Gwir yn erbyn y Byd." Cafíed y gwir ei le, beth bynag fyddo y canlyn- iad. Ac onid y gwir yw, fod arferion yn ffỳnu ymhlith meibion a merched Cymru na oddefid mewn un genedl wareiddiedig ? Onid y gwir yw, fod gwylder benywaidd yn beth na ŵyr llawer o'n merched ieuainc ddim am dano ? Onid y gwir yw, fod mân-ddichellion, twyll ac anghyfiawnder, yn