Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

112 ADDY8G YN NGHYMRÜ. allan y gwirionedd, yn teilyngu ein mawrygiad ucliaf. Mae nifer a chel- fyddgarwch ei ddyfeisiau, y darganfyddiadau arddercliog a wnaeth ymhlith y ser, dyfnder a phrydferthwch ei ymchwiliadau mewn galltofyddiaeth, wedi ennill iddo fawrhad pob oes ddyfodol, ac wedi ei osod yn nesaf i Newton yn rhestr athrylith wreiddiol a chelfyddgar. Cafodd ei ddyrchafu i'r graddiad uchel yma, trwy ei ddull inductẁe o athrylithio, yr hwn a ddefnyddiai yn ei holl ymchwiliadau. O dan arweiniad diogel darsylliad a phrawf, aeth rhagddo at ddeddfau cyffredinol; a phe na buasai Bacon erioed gwedi byw, buasai efrydydd natur yn cael yn ysgrifeniadau Galileo, nid yn unig egwyddorion yr athroniaeth inductẁe, ond hefydeu cymhwys- iad ymarferol at ddyfais a darganfyddiad." ADDYSG YN NGHYMRU. [Reports of the Commissioners of Inquiry into ihe state of Edu- cation in Wales.] Difyh yw darllen y desgrifiadau camsyniol a roddir weithiau gan ysgrif- enwyr tramor o gyflwr y deyrnas hon, nid yn unig gan ymwelwyr o wledydd pellenig, megys India neu Persia, ond yn nghyfansoddiadau dyn- ion dysgedig ar gyfandir Ewrop, a'r rhai hyny wedi treulio llawcr o amser yn Lloegr i ddeall arferion y genedl. Dywed rhai o honynt mai un or sefydliadau mwyaf anrhydeddus yn ein plith yw yr ymladdfêydd a welir yn fynych mewn gwahanol ranau o Loegr ; eu bod yn cael eu dwyn ymlaen ar gost y llywodraeth ; a bod Syr Peel (fel y galwant ef) o un ochr, a Lord Palmerston o'r ochr arall, yn arfer rhoddi eu presennoldeb yn y cyfryw ieoedd i gefnogi yr ymladdwyr. Ond yr hyn sydd yn eu dyrysu yn hollol, yw y dull y mae trigolion y wlad hon yn treulio y Sabboth. Ni fedrant ddirnad pa fodd y mae yn ddichonadwy i neb fyw heb weithio neu chwareu ar ddydd yr Arglwydd. Dyma rai o'r camsyniadau chwithig y mae dyn- ion call yn syrthio iddynt wrth geisio darlunio pobl o iaith a nodwedd wahanol i'r eiddynt hwy eu hunain. Nid rhyfedd, gan hyny, os cyfar- fyddwn â rhai pethau lled newydd a dyeithr yn adroddiadau yr ymchwil- wyr a fuont yn ddiweddar dros y Hywodraeth yn edryeh i ansawdd addysg- iant yn Nghymru. Nid ydym yn dyweyd hyn i'w beio, ond yn hytrach iV hesgusodi. Yr oeddynt wedi ymgymeryd â gorchwyí a fuasai yn gofyo oes o ragbarotöad, mewn dygn efrydiaeth o iaith ac arferion y Cymry, eu barnau a'u rhagfarnau, eu manteision a'u hanfanteision, ac uwchlaw y cwbl, eu teimladau a'u hymdrechiadau crefyddol. Afresymol gan hyny oedd <iysgwyl dealltwriaeth cywir am ansawdd ein gwlad mewn tri mis neu bed- war oddiwrth ddynion oedd ychydig cyn hyny mor anwybodus o honom a neb o drigolion y blaned newydd Neptune. Nid oedd ganddynt ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf; a'r rhyfeddod mwyaf yw, eu bod ar y cyfan wedi gwneyd cystaL