Skip to main content

^ýá>. Y TBAETHODYDD. Y JESUITIAID A'U MOESDDYSG. Yr ydym wedi dwyn Pabyddiaeth mewn rhai o'i ffurfiau ger bron ein darllenwyr yn fynych; ae nid ydym yn unig yn hyn, ond y mae ugeiniau o'n cydlafurwyr wedi gwneuthur yr un peth. Y mae Pabyddiaeth wedi ei phwyso, a'i chael yn brin ; y mae ei dedfryd wedi eichyhoeddi, ondpa le y mae y fraich sydd yn ddigongalluog i'w gweinyddu ? Wrth edrych yn ol, fe'n temtir i feddwl mai dianc a wna hi byth, er cyhocddi ei dedfryd unwaith ac eilwaith; oblegid y mae hi wedi ei cliollfarnu er ys dros fil o flyneddau. Amcanwyd ainryw weithiau weinyddu y gollfarn, ond dyryswyd pob am- can. Daeth Pabyddiaeth yn ddiangol o law ei gelynion bob tro. Pan y meddyliwyd ei bod wedi cael ergyd marwol, eyfododd drachefn fel y phoenix o ludw ei rieni; adnewyddwyd ei hieuenctid hi yn yr ymrysonfa fel yr eryr, ac erbyn lieddyw y mae lii mor lliosog ei deiliaid ag y bu hi erioed. Y mae ei deiliaid hi yn gant a hanner o filiynau, tra nad ydyw Protestaniaid y byd, o bob enw, ond prin chweeh-ugain miliwn. Nid oes sail i obaith am ddinystr Pabyddiaeth yn arwyddion yr amserau ychwaith. Y mae rhai yn gweled ci chwymp hi yn lledaniad gwybodaeth, ac yn mherfíeithiad y celfyddydau ; ond y mae yn rhaid i ni gyfaddef na welwn ni ddim o hono mcwn un man ond yn ngair y gwirionedd (2 Thes. ii 8). Ein rheol ni i farnu ydyw, " Yr hyn a fu a fydd ;" ac os ydyw Pabyddiaeth wedi goroesi pob gwrthwynebiad a wnaed gan wybodaeth a chelfyddyd hyd yma, tebygol ydyw y gwna hi hyny eto. Nid mewn moment y sym- udir y graig sydd wedi gwrthsefýll ystormydd mil o flyneddau. A phe buasai rhywbeth yn ein temtio i fod yn dyner wrth Babyddiaeth, ei hen- afiaeth hi a fuasai hwnw. Y mae y fath swyn yn hyn i ryw ddosbarth o ddynion yn Eglwys Loegr, fel ag y maent yn tafiu eu hunain i'w breich- iau, am ei bod hi yn hen. Ac onid oes rhyw fath oddifrifwch crefyddol ynllenwi einmynwes wrth agosâu at unrhyw beth sydd â chŵysau henaint arno? Pwy a all edrych ar furiau hen gastcll, heb gael ei gario yn ol i'r amser pan oedd rhyfelwyr barbaraidd yn gollwng saethau angeu drwy y mân dyllau sydd ynddynt ? Pwy a all gerdded o dan ncn gerfiedig eglwys gadeiriawl, heb i'w ddy- cliymyg boblogi y llc â hen seintiau yr oesocdd gynt, ac hcb deimlo mai cysegr-drais fyddai yr anfri lleiaf i furiau o'r fath ? Ac onid ydyw yr un tcimlad yn saitli dwysach yn y fynwes wrtli agosâu at Babyddiaeth ? Nitl ydyw ein cestyll ni ond er doe, ein temlau ond yn eu mabandod, o'u cymharu â lii. Y mae hi yn anghyfnewidiol yn nghanol cyfnewidioldeb, yn anfarwol yn nghanol marwoldeb, ac yn ymddangos fel wedi ei bwriadu [Ionawr, 1848.] B