Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. WILLIAM GURNAL. [ Y Cristion mewn Cyjlawn Arfogaeth : neu, Draethawd am Ryfel y Saint yn erbyn y Diafol: hefyd, Arf-dŷ yn cael ei agoryd; ynghyd â diweddiad dedwydd yr holl Ryfel. Gan William Gurnal, B.D. gynt o Lafenham, Suffblc. Y trydydd argraff- iad. Wedi ei gyfieithu gan Thomas Jones. Thomas Gee, Dinbych.] Gellid cyfodi dadl gref dros darddiad dwyfol y grefydd Gristionogol oddiwrth y cyfaddasder sydd ynddi i holl natur dyn: nid yn unig i'r hyn ydy w fel pechadur, ond i'r hyn ydyw fel creadur; i'r hyn ydyw yn ei allu- oedd meddyliol, yn gystal ag yn ei anghenion moesol. Nid yw pob ffurf arall ar grefydd a fedd ein byd, ac anffyddiaeth yn ei holl ddulliau, yn eu cyfeirio eu hunain ond at ran o'n natur. Ond y mae yr efengyl yn ei chyfadd- asu ei hunan i'r holl ddyn. Y mae yn cyfeirio ei gwirioneddau at ei ddëall i'w dirnad, at ei galon i'w teinüo, ac at ei ewyllys i'w hymarfer. Y mae digon o gywreinrwydd ynddynt i swyno ei sylw, digon o bwysigrwydd i sefydlu ei ystyriaeth, a digon o awdurdod i rwymo ei ufudd-dod. Nid yw pob llygriad a wnaed ar Gristionogaeth ei hunan ond gwyriad oddiwrthi yn y naill neu y llall o'r golygiadau hyn. Colli un ydyw hanfod Pabydd- iaeth, colli y llalì ydyw hanfod Sosiniaeth, a cholli y trydydd ydyw han- fod Antinomiaeth. Y tuedd yr ydym yn ofni sydd yn ymgryfhau y dyddiau hyn ymhlith Protestaniaid yn lled gyffredin, oddigerth y rhai hyny o honynt sydd ytt ymylu ar ffiniau Rhufain, ydyw edrych ar Gristionogaeth fel trefniant golygiadol noeth—rhywbeth mewn pwnc yn unig, cwbl ddi- ddylanwad ar bob teimlad, a hollol ddi-berthynas âg ymarferiad. Sylwi ar yr holl bethau a ellid nodi fel achosion i hyn sydd allan o gylch ein liamcan presennol. Ond o'n rhan ein hunain, nis gallwn lai na meddwl nad ydywr y dull pynciol a gymerwyd gan y rhan fwyaf o dduwinyddion uniongred i drin gwirioneddau yr efengyl, â thuedd uniongyrchol ynddo i fagu gogwydd felly yn meddyliau dynion dibrofiad personol o rym y gwirionedd ar eu calonau. Nid ydym yn enwi un awdur neillduol: ond eymered y darllenydd olwg ar ein hysgrifenwyr duwinyddol yn gyffredin, ac yr ydym braidd yn bonderfynol y teimla fel ag yr ydym ni wedi teimlo er ys rhai blyneddau bellach, fod rhywbeth yn y wedd sydd ar yr efengyl yn eu hysgi-ifeniadau, eu hamcan amlwg i ddwyn ei gwirioneddau dan rëolaeth trefniant o'u heiddo eu hunain; ae yn enwedig yn y dull sydd yn ffynu agos trwyddynt oll, o edrych ar yr efengyl yn ei chy- [HYDREF, 1847.] 2 d