Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.17 î- Y TRAETHODYDD. AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG. Nid oes un iaith yn y byd, mae yn debyg, yn cael ei siarad yn hollol yr un modd yn mhob ardal lle ei harferir ; mae gwahaniaeth, mwy neu lai, rhwng pob talaeth, a rhwng pob cymydogaeth. Mae amrywiol helyntion a dygwyddiadau yn tueddu i achlysuro hyn. Lle y byddo y gwahaniaeth yn fawr, gellir tybied fod didoliad o bwys wedi cymeryd lle rhwng llwythau yr un genedl i randiroedd pell oddiwrth eu gilydd, a bod pob ymgyfa- thrach wedi peidio rhyngddynt, a hyny er ys llawer o oesoedd. Mae y llwythau clidoledig hefyd yn agored i ymgymysgu â chenedloedd eraill cymydogaethol, a thebygu mwy neu lai i'r rhai hyny yn ol fel y byddo grym eu dylanwad. Os cânt eu darostwng gan eu cymydogion, a'u dwyn dan yr un cyfreithiau a llywodraeth, gwna hyny mewn amser gyfnewid- iadau mawrion : a thrafnidiaeth a chydgymysgu mewn priodasau a barant gynnydd ar y cyfryw gyfhewidiadau. Mae manteision dysgeidiaeth mewn un iaith rhagor y liall yn effeithio i beri fod dylanwad mwy gan y naill ar y llall, fel y mae cenedl amddifad o fanteision dysg a gwybodaeth yn dueddol i efelychu cymydogion a fyddont yn fwy cyfoethog o'r manteision hyny, A lle byddo dysgeidiaeth yn ffŷnu, niae yr iaith yn yr hon ei cyf- renir yn cael ei choethi a'i diwyllio. Yn ol y gradd o wareiddiad y byddo unrhyw genedl wedi ei gyrhaeddyd, eu dull o fyw, anghenion, tueddiadau, ac arferion, y ceir yn gyffredin fod tlodi ac annillynder neu helaethrwydd a thlysni eu hiaith. Mal hyn, tybygem, y mae fod cynnifer o gangen- ieithoedd perthynol i bob gwlad a chenedl yn y byd ; yr un iaith yn y dechreuad wedi ymranu yn llawer o wahanol gangenau, yn gwahaniaethu rywfaint oddiwrth eu gilydd, ac efallai y fam-iaith wedi llwyr golli o ran "" siarad o honi yn ei phurdeb. Felly y cawn fod yr hen Geltaeg, iaith trigolion cyntaf Ewrop, wedi miranu yn amrywieithoedd lawer, megys, y Gymraeg, y Gerniweg, y Ly- daweg neu Vrezonee, y Wendaeg, y Wyddelaeg, a'r Gaeleg; y rhai ydynt oll yn dangos arwyddion amlwg eu bod wedi deilliaw oddiwrth yr un fam- iaith ddechreuol; etto, drwy eíFeithiau amgylchiadau cyffelyb ag a nod- wyd, maent oll yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn fawr. Ymddengys focl y Gymraeg a'r Lydaweg yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gílydd nag i'r Wyddelaeg a'r Gaeleg, a bod llawer mwy o berthýnas rliwng y \Ionmvr, 1847.] b