Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. PABYDDIAETH YN NGHYMRU. [The Cathoìic Directory, Almanack, and Ecclesiastical Register, for the year 1846.] Yr ydym rai gweithiau wedi dwyn sylw darllenwyr y u Traethodydd " at egwyddorion Eglwys Rhufain, fel y mae yn ymdrechu lefeinio yr holl fyd —naill ai yn ei Uiw a than ei henw ei hun, neu trwy y rhai hyny o Bro- testaniaid Prydain yn yr Eglwys Wladol a elwir Puseyaid, neu Uchel- eglwyswyr; ac o'r ddau, cyfrifwn y rhai diweddaf y mwyaf peryglus. Aeth oesoedd heibio heb i Babyddiaeth dynu nemawr sylw na dylanwad yn y deyrnas hon ; ac y mae yn dra thebygol y buasai mor ddiddylanwad eto ag y bu yn yr oesoedd diweddaf, oni buasai yr olaf. Yr ydyni yn pri- odoli holl ddylanwad a chynnydd Pabyddiaeth i offerynoliaeth y Puseyaid a'r Uchel-eglwyswyr. Yn wir, ymddengys fod cysylltiad rhyngddynt, ac eu bod yn ymdrechu dwyn ein gwlad, er yn araf eto yn ddiogel, yn hollol Jesuitaidd, i afaelion gormes yr Eglwys Rufeinig ; ni adawant faen heb ei droi er cael pawb o fewn cyrhaedd eu hawdurdod, o'r bŵth i'r palas. Yr ydym yn cofio pan oeddym ieuanc, pan y crybwyllai llefarwr neu olygwr yr Ysgol Sabbothol am Babyddiaeth—y golygem y cwbl fel rhywbeth pellenig —braidd yn werth sylw; ac yn wir, anwesem y meddwl flyneddau wedi hyny, ein bod fel gwladwriaeth a chenedl yn hollol ddiogel a diberygl. Ac er ein bod yn Ymneillduwyr, neu yn hytrach encilwyr, eto, meithrinem ry w ddirgel barch i'r " hen fam," ac i'w sefydliadau—ei bod yn Brotest- anaidd, a bod cymaint a hyny o lesiant yn ei chysylltiad â'r wladwriaeth —fod Protestaniaeth ynddi hi mewn cysylltiad â choron a gorsedd Lloegr yn fûr gwarchae rhyngom a phob perygl o Rufain. Mawr fel ein siomwyd, pan welwn yn awr nad yw ond pont a ddefnyddir i groesi yn fyrach i Rufain, a bod y locomotẁe Puseyaidd yn ein cludo fel gwladwriaeth gyda railway speed tua'r Vatican Station. Y llyfr a enwasom fel testun yr ysgrif hon sydd fath o ddyddiadur Pabaidd. Y mae yn cael ei gyhoeddi o flwyddyn i flwyddyn, ac yn uu tra helaeth—yn cynnwys pob hysbysiadau a mynegiadau o'u gweithrediadau a'u sefyllfa yn y deyrnas hon. Y mae yn llawn ateb i'w enw—yn "Direc- tory" i'w holl eglwysi, capeli, gweinidogion, colleges, convents, monasterìes, [HYDREF, 1846.] 2a