Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. WILLIAM WILLIAMS, O BANT-Y-CELYN, A'I AMSERAÜ. Ddarllenydd ! Yr ydym yn mhresennoldeb gŵr mawr, gadewch i ni dalu gwarogaeth iddo. William Williams, o Bant-y-Celyn ; neu yn nhaf- odiaith arferedig y genedl, " Yr hen Williams V Y mae swynyddiaeth yn yr enw; cyfoded yr oes Gymreig bresennol, a'r oesau a ddeuant hefyd, ger bron penwyni, a pharchant wyneb yr henafgwr anrhydeddus. Hwn, er ei fod yn hen, sydd o hyd yn ieuanc; er wecü marw a thewi, yn fyw ac yn Uefaru eto ; ac ieuanc afydd, byw a llefaru a wna, tra bywcrefydd ac iaith y Cymry. Y mae " yr hen WiUiams," yn lle heneiddio, yn myned yn hyt- rach yn ieuangach, ac elfenau bywyd fel yn gryfach ynddo, na phan oedd peiriannau y bywyd naturiol yn cyflawni eu priodol swyddau. Ei ddy- lanwad ar y Dywysogaeth a gryfâ fwyfwy gyda threigliad amser, a chyn- nyddiant gwybodaeth a chrefydd efengylaidd yn y tir. Clywir ei lefer- ydd yn adseinio bob Sabboth o gannoedd o addoldai yn Nghymru. Esgyna mawl cynnulleidfâoedd y saint yn " arogldarth peraidd, aberth cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist," bob tro y deuant at eu gilydd, yn ei syniadau a'i ymadroddion ef: syniadau a genedíid yn ei fynwes gan olygiadau efeng- ylaidd, ëang, a mawreddog, ar ogoniant person a gwaith y Cyfryngwr, ac a ferwid yn ei galon gan dân myfyrdod a phrofiad, nes yr ymdorent aílan yn llifeiriant anorchfygol o hyawdledd sanctaidd. Yn ngwres yr hylif hwn, y cynhesir ac y toddir calonau a serchiadau Cristionogion ein gwlad yn barâus, a'u geneuau a foliannant Dduw eu hiachawdwriaeth â gwefusau llafar, yn ysbrydoliaeth eu pêr ganiedydd. Y mae pob pennill ymron fel gwefr-beiriant wedi y llanwer ef â'r hylif trydanawl, a phan osoder hen dôn Gymreig yn gludiedydd (conductor), tery y trydaniad nerthol gyn- nulleidfa gyfan ar unwaith i lesmeirglwyf. Ar olwg arall, ei ganiadau ydynt gyffelyb i afonydd o ddyfroèdd bywiol yn llifo drwy y wlad er ei dyfrâu a'i fírwythloni. Llawer pererin blin gan y daith, ac ar ddiffoddi gan syched, a yfa o honynt nes y dychwela ei ysbryd ato, ac yr êl i'w ffordd yn heinif a llawen. I lawer enaid drylliog, dan argyhoeddiad o'i euog- rwydd a'i drueni, y defnynant olew a gwin iachâol yr efengyl. Dyferir ei bennillion gan y fam i feddwl ei baban gyda llaeth ei bronau, ac nid an- fynych y gwelir y bychan yn goUwng y fron, ac yn bloesgio allaii, " Mae 'r iachawdwriaeth fel v mor!" GORPHENAF, 1846.] q