Skip to main content

Y TRAETHODYDD, AGWEDD CREFYDD YN NGHYMRU. GAN Y DIWEDDAB. B4RCHEDIG CHRISTMAS EVANS. £Mae yn hyfryd genym ein bod yn gallu anrhegu ein darllenwyr, ar ddech- reuad ein hail lyfr, â thraethawd o waith y diweddar enwog Gristmas Evans, ar destun tra phwysig a dyddorol, yr hwn draethawd na argraffwyd erioed o'r blaen. Ysgrifenwyd ef ganddo yn y flwyddyn 1837, oddeutu dwy flynedd cyn ei farwolaeth, pan yr oedd efe dros ddeng mlwydd a thriugain 0 oed; ac felly gellir edrych ar y sylwadau canlynol fel cymyn-rodd neill- duol yr hen wron efengylaidd i grefyddwyr Cymru. Yr oedd Christmas Evans, nid yn ddyn i sect, ond yn ddyn i'w genedl; nid yn unig yr oedd yn dywysog yn mysg y Bedyddwyr Cymreig, ond yr oedd yn un o ddyn- ion penaf eglwys Crist yn mysg pob enwad yn Nghymru. Ei lafur cy- hoeddus a defnyddiol ara hanner canrif—ei sanctaidd ymarweddiad a'i dduwioldeb—ei ysbryd anmhleidiol a diragfarn—ac yn enwedig ei ragor- oldeb fel pregethwr, oherwydd efengyleiddrwydd mater a gwresogrwydd dull ei bregethiad, fírydiad didor ei ddrychfeddyliau, bywiogrwydd a hyn- odrwydd ei droellymadroddion, a'r llewyrch nefol a fyddai yn fynych yn dilyn ei weinidogaeth—a enwogasant ei oes, ac a beraroglant ei goffadwr- iaeth. Mae neillduolrwydd ei ddawn, craffder ei sylw, ac addfedrwydd ei brofiad crefyddol, yn hawdd eu gweled yn y traethawd hwn. Er nad yw yn faith, mae yn dra chynnwysfawr. Gall na bydd y darllenydd yn cyt- tuno â rhai o'i syniadau, ond nis gall lai na chanmawl yr ysbryd gwir Gristionogol a ddangosir yn y cyfan. Buasai yn resyn i'r fath sylwadau gael eu claddu yn y tywyllwch. Hyderwn y bydd eu darlleniad yn eff- eithiol i godi hiraeth dwys ar ol yr hen amserau da ar grefydd bur, ac i ennyn gweddiau taerion am ddyfodiad amseroedd eto i orphwys o olwg yr Arglwydd.] 1 drin y mater yn gryno, edrychwn ar grefydd fel y bu er pan gyfod- odd Rowlands a Harries, y rhai trwy eu hathrawiaeth a'u hysbryd a rodd- asant wawr newydd ar grefydd yn Nghymru; yna ymchwiliwn a ydyw crefydd wedi adfeilio, ac os ydyw, beth yw arwyddìon ac achlysuron yr adfeiliad ; ac yn olaf, ni a awn i edrych pa foddion i'w harferyd a fyddant debycaf o'i hadferu. Mae crefydd heb hollol ddiffodd yn Nghymru er pan y cyfieithwyd yr Ysgrythyrau i'r iaitli Gymraeg. Yr oedd ychydig o eglwysi i Grist yn IONAWR, 1846. b