Skip to main content

225 DYDD DADGUDDIAD Y RHAGORIAETH. 'Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus.' O bob gwahaniaeth a ddichon fod rhwng dyn a dyn, yr un sydd rhwng y cyfiawn a'r drygionus yw y mwyaf. Ond nid hwnw yw yr hawddaf i'w weled yn y byd hwn ; yn enwedig pan fo crefydd yn yr agwedd y mae fn bresennol. Ond dychwelwn a gwelwn y rhagor. A pheth o'r pwys mwyaf yw y gwelir ef. Mynai yr Arglwydd Iesu i'w wrandawyr feddwl am dano yn fawr ar gyfrif yr addefir y naill ae y gwadir y llall yn ngwydd y Tad a'i angelion sanctaidd. Y mae rhai llai yn haws i'w gweled nag ef yn awr—y gwahaniaeth sydd rhwng cyfoethog a thlawd, rhwng iach ac afiach, rhwng dysgedig ac anwybodus, a rhwng prydweddol a hagr. Y mae y rhai hyn oll yn haws i'w gweled yn awr na'r gwahaniaeth sydd rhwng y cyfiawn a'r drygionus. Ond pe cyfarfyddai cyfoeth, iechyd, gwyb- odaeth, a phrydferthwch mewn un, a'r diflỳgion cyferbyniol mewn un arall, byddai y gwahaniaeth yn annhraethol lai na'r hwn sydd rhwng y cyfiawn a'r drygionus. Un gwaith mawr a berthyn i'r dydd olaf yw amlygu y gwahaniaeth hwn. A gallai ystyried yr amlygir ef, a meddwl a chwilio yn wyneb gair Duw ac yn ol natur pethau pa fodd yr amlygir ef, fod yn gymhorth i'r credadyn egwan i ' ddal ei ffordd,' a chyffroi byd diofal i ymofyn am gref- ydd. Y mae crefydd a phechod fel egwyddorion yn llywodraethu medd- yliau dynion, heb fyned i'w cyflawn nerth, neu heb addfedu yn y byd hwn. Sefyllfa fabanaidd y pechadur a'r cristion yw eu hoes yma. Ac megys y mae creaduriaid a llysiau yn anhawdd eu hadnabod yn y sefyllfa hòno, felly dynion mewn ystyr foesol. Anhawdd yw gwahaniaethu rhwng rhai rhywogaethau o adar cyn iddynt fagu plû. A phe y cymysgid cenawon y llewod a'r ŵyn yn ieuainc, ni byddai yn hawdd canfod wahaniaeth eu tueddiadau. Ond heblaw addfediad y ddwy egwyddor, cymer cyfnewid- iadau mawrion yn amgylchiadau y ddau le tuag at wneyd yn amlwg y rhagor rhyngddynt. Gwir y gellir myned yn rhy bell i dir dychymygion wrth geisio edrych i hyn, gan nad amlygwyd eto beth fydd y naill na'r llall; ond amlygwyd i gryn raddau beth na fyddant, a cheisiwn trwy hyny yn benaf edrych ar y gwahaniaeth a welir rhyngddynt. Didolir y ddau oddiwrth eu gilydd. Y maent yma ynghyd. Nid rhoddi un ran o'r ddaear i'r naill, a'r rhan arall i'r llaíl a wnaed: neu un oes i un, ac oes arall i'r llall. Ceir y cyfiawn a'r drygionus yn awr yn aelodau o'r un teulu—yn cyd-ddAvyn ynmlaen yr un gorchwylion—yn bwyta wrth yr un bwrdd—yn cysgu yn yr un gwely—a'u cyrff, yn ol dymuniad y ddau, yn gorwedd yn yr un bedd. Y mae cymysgiad fel yma ar rai a thèbygoî- rwydd rliyngddynt, yn gryn rwystr i weled y gwahaniaeth sydd hefyd rhyngddynt. Ond ni oddef y dydd hwnw y fath rwystr. Didola y Barnwr hwy oddiwrth eu gilydd megys y didola y bugail y defaid oddiwrth y geifr. Gallai y teithiwr, wrth weled y defaid a'r geifr yn pori blith dra- phlith ar y mynydd, deimlo anhawsder i adnabod pob un wrth eu rhy wog- Gorphenaf, L845. 2 a