Skip to main content

4>3 Y TRAETHODYDD. RHAGORIAEH GWYBODAETH. 1 Bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda.' SOLOMON. Rhagoriaeth dyn ydyw ei wybodaeth. Wrth yr anwybodus y gellir dy* wedyd, ' Ni ragori di.' Rhagoriaeth dyn ar yr anifail ydyw galluoedd ei feddwl; a rhagoriaeth y naill ddyn ar y llall ydyw, fod ei wybodaeth yn fwy ei graddau, neu yn well ei natur. Nid yẁ pob gwybodaeth o gyffelyb bwys a gwerth. Mae y naill gangen yn fwy anhebgorol, yn fwy ei budd- ioldeb, neu yn fwy ei chysur nag arall; eto mae pob cangen o wybodaeth yn dda ynddi ei hun, er bod yn ddarostyngedig i gael ei chamddefnyddio, Nid yn y wybodaeth y mae y drwg, ond yn y camddefnyddiad. Honi mai ' mammaelh duwioldeb yw anwybodaeth' sydd athrawiaeth Babaidd, a theilwng ydyw o'r ffynnon ddrewedig y deillia o honi. Gwydd-* om mai yn y gwrthwyneb y mae; mammaeth annuwioldeb ydyw anwyb- odaeth. Mae croniclau yr oesoedd yn profi hyn, a chyfrifon gwladwriaethoì ein teyrnas yn cadarnhau yr un peth. O fysg y werin ddiddysg ac an- wybodus y cyfyd y niíer fwyaf o lawer o ddrwg-weithredwyr y deyrnas. Am bob un a gawsai fanteision dysgeidiaeth, mae tri o garcharorion y deyrnas heb eu cael. Prawf diymwad fod esgeuluso amaethu a choethi y raeddwl trwy ëangu gwybodaeth, yn swcro troseddau, ac felly yn cyn- nyrchu trueni a gofid. Gwir y dichon i wybodaeth fod yn achlysur niwed,—felly hefyd y dichort pob peth da. Mae medru gweled yn achlysur edrych ar ddrygioni, a medru clywed yn achlysur gwrando celanedd—eto, nid yn y gweled a'r clywed y mae y drwg, ond yn y defnydd ysgeler a wneir o honynt.* Offeryn yw gwybodaeth a gynnyrcha lawer o dda neu o ddrwg, yn ol fel y defnyddir ef. Naws y galon a ddyry gyfeiriad i'rsynwyr, er lles, neu er niwed. Mewn ystyr briodol, cyfoeth y deall ydyw gwybodaeth. Y deall yvt y gallu i gynnyrchu; gwybodaeth yw yr ystôr a gesglir, y cyfoeth a fedd- iennir. Dichon gan hyny fod gan ddyn ddeall cryf^ a gwybodaeth brin î a chyfyd hyny naill ai oddiar ddiffyg moddion i amaethu 'ei feddwl, neu oddiar esgeuluso y moddion a fo ganddo. Gallwn feddwl fod gan Adda lonawr, 1845. b