Skip to main content

y tràethodydd; YMWELIAD AG AMERICA. ir. Yn New York y gadawsom y darllenydd yn ein hysgrif flaenorol. Am- gylchiadau anorfod barodd i ni ei adael yno cyhyd. Yr ydym yn ofni y rhaid i ni wneyd un attalfa arall cyn gorphen, am fod gweddill y daith yn ymestyn dros wyth neu naw mil o filldiroedd. Yr ydym yn awr yn croesi y hay, neu yn hytrach odrau afon Hudson, i New Jersey, gael cymeryd y gerbydres am Pennsyhania. Y mae y syniad am daleithiau America yn Nghymru gan lawsr yn gyffelyb i siroedd yn Mhrydain; ond y mae yn un camsyniol iawn. Y mae yn anhawdd i drigolion ynys mor fechan a Phrydain i ffurfìo syniad cywir o gwbl am gyfandir mor fawr ag America. Nid yw Lloegr ond rhyw hanner can' mil o fìlldir- oedd ysgwâr, a Chymru yn saith mil, Iwerddon yn ddeuddeg mil ar hugain, ac Ysgotland yn ddeg mil ar hugain. Nid ydynt oìl gyda'u gilydd ond yn brin gant ac ugain o filoedd o filldiroedd ysgwâr. Mae talaeth New York ei hun yn saith a deugain. Mae Pennsylvania yn chwech a deugain. Mae Wisconsin yn dair-ar-ddeg a deugain. Mae Illinois yn bymtheg a deugain. Mae Virginia yn dri ugain ac un. Mae Missouri yn dri ugain a saith. Mae Minnesota yn gant a thri ugain a chwech. Pe rhoddech Loegr a Chymru, ac Ysgotland ac lwerddon yn un clwt, a thòri clwt o'r un maint a hwy allan o Minnesota ei hun, byddai agos cymaint a Lloegr ar ol o'r un dalaeth hono. Neu ped elai holl drigolion Cymru, Lloegr, Ysgotland, ac Iwerddon drosodd y flwyddyn nesaf i dalaeth Minnesota, at hyny o drigolion sydd yno yn barod, ni byddai y dalaeth hono wedi'n agos mor llawn o drigolion ag ydyw Prydain Fawr yn awr. Gwlad fawr yw America; y mae yma bobpeth ar raddfa fawr, ac nid rhyfedd fod y Yankees yn chwerthin am ben bychander ein Prydain Fawr ni. Dywedir am un o'n cefnderwydd oedd wedi bod drosodd yn gweled Arddangosiad Llundain, fod ei gyfeillion yn holi ei farn am Brydain wedi iddo ddychwelyd. Meddai yntau, " Gwlad ragorol iawn 187S.—4. '