Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BERNARD AC ABELARD. Yn y flwyddyn 1139, pan oedd Bernard yn addaw iddo ei hun seibiant i fywyd o fyfyrdod tawel yn Clairvaux am y gweddili o'i oes, ar ol ei lafur helyntus yn Italy mewn cysylltiad â sism y Babaeth, derbyniodd epistol maith, llawn o appeliadau difrifol, oddiwrth ei brif gyfaill, y ffyddlawn a'r caruaidd William o St. Thierry, yn galw ei sylw at achos o'r pwys mwyaf i'r eglwys. Parodd yr epistol hwn i'w holl obeithion ddifianu. Dinystriodd gynllun y rhan olaf o'i oes. Gwelodd mai nid eiddo gẃr ei ffördd. Baich y llythyr oedd fod yr eglwys mewn enbydrwydd. Yr oedd Master Peter Abelard yn sefyll i fyny yn hyf i ddysgu athrawiaethau amryw a dyeithr. Yr oedd y wir ffydd mewn dirfawr berygl—" y ffydd hono," ebe Williara, " a gysegrodd Crist trwy dywallt ei waed, yr hon yr ymdrechodd apostolion a merthyron yn ei phlaid hyd angeu, a'r hon sydd wedi cael ei throsglwyddo i lawr yn iachus a chyflawn gan yr athrawon sanctaidd i'r amseroedd truenus ac enbyd presennol." Yr oedd enbydrwydd y wir ffydd yn fawr, am fod yr heresiau a ddysgai Abelard yn anelu, fel y meddyliai yr abad duwiol- frydig, at ei bywyd, yn cloddio dan ei sylfeini; ac yr oeddynt yn ymddangos ỳn cyd-daro âg archwaeth y miloedd, ac felly fel cefnllif anwrthwynebol yn gorlifo y gwledydd. " Mae Peter Abelard unwaith eto yn traethu newydd-bethau; unwaith eto yn ysgrifenu yn eu cylch." Ei lyfrau a groesant yr Alpau; cludir hwynt dros y moroedd. Ymleda ei olygiadau trwy daleithiau a theyrnasoedd Crêd. Pregethir hwynt i'r werin ; amddiffynir hwynt gan ddynion o ddysg ac athrylith, y rhai sydd yn cyfrif yn fraint cael eistedd wrth draed Abelard. A gwaeth na'r cwbl, y mae y gair yn hollol ymhlith y ffyddloniaid fod y ddysgeid- iaeth newydd yn dechreu lefeinio y llŷs. Trychineb mwy erchyll na dinystr y bydysawd fyddai dymchwelyd colofn y gwirionedd. Byddai gwenwyno ffynnon bywyd Crêd yn ddygwyddiad o ganlyniadau mwy arswydus na dim y gellid dychymygu am dano. A chrynai yr abad oedranus yn ei le rhag dygwyddo y fath drychineb. Nid oedd mwyach nerth ynddo. Yr oedd ei ddychymyg ofnus wedi portrëadu y drwg 1872.—3. s