Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

57 EMYNYDDIAETH. X. MORGAN EHYS, A DAFYDD MORRIS. Yb ydym eisoes wedi traethu yn helaeth ar brif emynwyr Cymru, ond y mae dosbarth lliosog arall eto yn aros i sylw arhynt, y rhai a lafuriasant yn y ffordd hon, ac a gyfranasant i raddau mwy neu lai tuag at gyfoethogi ein caniadaeth grefyddol. Bellach, bwriedir myned ymlaen gyda'r rhai hyn, gan ddechreu gyda'r ddau a enwyd uchod, a íloffa cymaint a fedrwn gael o gofion am danynt, gydag adolygiad ar eu cyfansoddiadau, yn cynnwys cynlluniau têg o gynnyrchion eu hathrylith. MORGAN RHYS. Ychydig a phrin yw y cofion sydd ar gael am y prydydd melus hwn. Pan y gorphenodd ei yrfa, nid ydym yn gwybod ddarfod i neb o'i hen gyfeillion gyfansoddi marwnad am dano, na chymaint a gosod càreg ar ei fedd, oddiwrth y rhai y gallesid casglu rhywbeth am ei oedran, ac am ei gymeriad fel dyn, fel cristion, ac fel llafurwr yn ngwinllan yr efengyl. Pa fodd y bu yr esgeulusdra hyn nis gwyddom, ac nid oes genym ond ceisio gwneyd y goreu o'r hyn sydd ar gael er prined ydyw. Dywedir ei fod yn enedigol o gymydogaeth Llanymddyfri, yn Sir Gaerfyrddin. Tybir iddo gael ei eni yn agos i ddechreu y 18fed ganrif, ond nis gallasom gael allan pa flwyddyn, na gwybod dim pa ddygiad i fyny gafodd, nac am helyntion bore ei oes. Er hyny gallwn gasglu iddo gael rhyw gymaint o ysgol, gan fod Ue i dybied iddo fod am ryw yspaid yn un o ysgolfeistriaid Ysgolion Oymraeg Cylchynol y Parchedig Griffith Jones, Llanddowror, a'i fod wedi hyny, yn y rhan ddiweddat o'i oes, yn cadw ysgol ddyddiol ar ei gyfrif ei hun yn ardal Capel Isaac, gerllaw Llandeilo Fawr. Preswyliai mewn tŷ bychan ar dir Cwm-gwaun-hendŷ, yn mhlwyf Llanfynydd. Ymddengys iddo gael ei ennill at grefydd trwy weinidogaeth Howell Harris a Daniel Eowland. Ymunodd â'r ÎMethodistiaid yn Nghil-y cwm, lle bu yn aelod defnyddiol trwy ei oes; ac heblaw cadw ysgol fel y soniwyd bu yn llafurio fel pregethwr neu gynghorwr, yn dra chymeradwy, am lawer o flynyddoedd. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd bregethu, ond dywedir iddo barhâu yn ffyddlawn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymer- odd le yn y fl. 1779. Y cofnodiad yn Nghofrestr y Claddedigaethau yn Eglwys Plwyf Llanfynydd yw hyn yn unig :—" Morgan Eees, August the 9th, 1779." Claddwyd ef, felly, yn mynwent Llanfynydd, ond nid oes yno un beddfaen i ddangos y man y gorwedda ei weddillion