Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFAILL RHINWEDD. Rhif. 8. TACHWEDD, 1846. Cyf. I. ©©IFOÄOROTa IMcîiítríl !î»xtei". Mae rhagluniaeth Duw, o bryd i bryd, yn arferol o godi dynion o ryw gymhwysderau nodedig i sylw y cyhoedd. Nid bob amser y deuir o hyd i berson mor hynodfawr ag Awdwr " Tragywyddol Orphwysfa'r Saint." Nid pob mam sy'n magu Baxter. Mae enw y gŵr enwog hwn yn cael ei swnio mor fynych a chyfarwydd gan blant ein Hysgolion Sabbothol ac ereill, a phe buasai wedi myned i orphwyso oddiwrth ei lafur ond er y llynedd. Enw Baxter oedd un o'r rhai a gyffrodd eiu cywreinrwydd plentynaidd ein hunain gyntaf erioed; ac i'w ysgiifau gwerthfawr ef yr ydym ddyledus am gynhyrchiad y duedd sydd ynom i " lynu wrth ddarllen." Ganwyd Richard Baxter yn Rowton, Sîr Amwythig, yn niw- edd y flwyddyn un mil chwe' chant a phymtheg. Nid oedd ei rieni wedi eu cynhysgaethu â llawer o dda y byd hwn, ond y'nghanol cymydogion llygredig ac anwybodus, yn rneddu ar grefydd; ac o ganlyniad, cafodd eu bachgen ei fagu yn sŵn gweddüau ac addysgiadau crefyddol. Effeithiodd yr addysg- iadau hyny ar ei feddwl pan yn dra ieuanc, a glynasant wrtho hyd ddiwedd ei oes. Dylai rh'ieni fod yn ofalus iawn am roddi addysgiadau da i'w plant pan yn ieuainc: bydd eu hol arnynt wedi cyrhaedd henaint a phenllwydni. Nis gall- asai amgylchiadau Mr. Baxter ganiatâu iddo anfon ei fab i Eydychain neu Gaergrawnt, am hyny gorfu iddo foddloni i'r addysg a allai gael iddo yn nes adref. Ond g"au fod y bach-