Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFAILL RHLWEDD. Rhif. 2. MAI, 1846. Cyf. 1. Bywyil a Mèrtliyi'tl.ofl W. Tynclsaì!. DrwEDiR fod " coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig," o ganlyniad, nid amheuwn na fydd hanes byr o fywyd a mer- thyrdod ein cydwladwr rhinweddol, William Tyndal, yn dder- byniol gan ein darllenwyr. Ganwyd ef mewn cymydogaeth ar derfynau Cymru, oddeutu y flwyddyn lôOO. Nid ydym yn gwybod nemawr am ei deulu, ac nis gallwn olrhain ond tra ychydig o hanes rhan foreuol ei oes. Mae yn ymddangos fod ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus, o herwydd buont alluog i roddi i'w mab William, gyflawnder o fauteision a- ddysg. Cafodd ei anfon pan yn lled ieuanc i Neuadd Mag- dalen, Prif ysgol Rhydychain, lle talodd y diwydrwydd mwyaf, er llenwi ei feddwl â gwahanol wybodaethau. Perchid ef yn gyffredinol o herwydd ei ddysg a'i fiiühedd rinweddol. Gwnaeth yr Ysgrythyrau Santaidd yn brif bwnc ei fyfyriaeth, a bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i ddwyn y cyfryw i gyrhaedd cànoedd o ymofynwyr pryderus am y gwir. íîi bu yu hir cyn cael gafael arysgrifau Luth^r, ac Erasraus, y rhai a chwiliai yn ofalus, ac a barchai yn fawr; ac wtdi cael golwg lled gywir ar wahanol rànau o'r gwirionedd ei hunan, dechreuodd gyflwyno y gyfryw wybodaeth mewn modd diwyd a dirgelaidd i'w gydfyfyrwyr. Oblegyd ei gymhwysderau, der- byniodd Tyndal swydd yn Ngholeg newydd Cardinal Wolsey; ond o herwydd ei fod yn cael ei ddrwgdybio o Lutheriaeth, cafodd ei ddiswyddo a'i garcharu; ac wedi ei ryddhau, gadaw- odd Rydychain, a symudoddi Gaergrawnt.