Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD, MEDI, 1861. Y DDEDDF A'R EFENGYL. (Parhad o titdal. 99.,) Nid yw Duw yn gosod gerbron neu gynyg ryw haner raoddion, nac yn nodi dim amser addasach na'i gilydd i dderbyn neu gredu yr Efengyl; ond ""Wele yn awr yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwr- iaeth." A thrwy ddylanwad Ysbryd y gwirionedd, yr hwn a'i llefarodd, yn cyrhaedd y clwyf, fe'i meddygin- iaethir; " Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf dau íìniog,—yn barnu meddyliau a bwr- iadau y galon;" Heb. iv. 12;—"megys tân, ac fel gordd yn dryllio y graig;" Jer. xxiii. 29. Gwaith nerthol a fwriadodd Dnw ei gyílawni trwy ei alwadau grasusol, ei ddwys rybuddion, a'i argyhoeddiadau: ac yr oedd yr Apostolion, " gan wybod ofh yr Arglwydd, yn perswadio dynion:" ac hefyd yn dysgrifìo eu gweinidogaeth, yr hon a gynwysid yn yr eglurhad o anfesuredig gariad Duw, a'r perygl o'i ddiystyru, dywedent, "Amhyny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megys pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni; yr ydym yn eríÿn tros Grist, cymoder chwi â Duw;" 2 Cor. v. 20. Gair Duw, neu yr Efengyl, trwy ddylanwad Ysbryd y gras, sydd yn meddyginiaethu, yn gyntaf, y clwyf o annghrediniaeth yn nghalon dyn, a'i gariad at bechod mewn canlyniad. Y blaenaf yw yr achos, a'r olaf yw yr effaith. Y mae cyflawn chwyldroad, a chreadigaeth newydd, yn cymeryd lle yn ansawdd dyn pan y credo yr Efengyl, yr hyn, yn ddiau, sydd o ddylanwad Ysbryd Duw, a'r hyn a ddygir oddiamgylch trwy alwad yr Efengyl: a pha gyffelybrwydd sydd rhwng cyfnewidiad trwyadl a gwir-