Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. MÁWRTH, 1861. TRAFODAETH Y CRISTION GYDA'R BYD PRESENOL. (Parhad o tudal. 11.) At iawn drefnu ein hachosion, tymhorol a gwladol, y mae cymedroldeb a chynildeb yn hanfodol angenrheidiol; heb yr hyn, dichon y bydd y diwydrwydd mwyaf yn an- effeithiol. Y mae treuliadau gwastraffus ac anaddas mewn tylwyth, yn myned yn mlaen o ddydd i ddydd, efallai am flynyddoedd, pryd na byddo y cyllid ond bychan na'r elw ond anwadal, yn dra pheryglus o agoryd ffordd i annhrefnu trafodaeth y percheDOg. Y mae diffyg gwyliadwriaeth, yn mhob amgylchiad, yn feius; ein Harglwydd Iesu Grist, wedi iddo borthi miloedd trwy wyrth, a orchymynodd i'w ddysgyblion "gasglu y briwíwyd gweddill, fel na chollid dim ;" Ioan vi. 12. Mewn llawer o amgylchiadau, y mae y manylrwydd penaf gyda'r peth lleiaf yn dra angenrheid- iol: a phan y byddo hyny yn deilliaw oddiar lwyrfryd calon i " rodio yn onest, ac nid o gybydd-dod," y mae yn dynodi gwir ysbryd Cristion. Dylai treuliadau masnach- wyr, a phob galwedigaeth, fod bob amser rywbeth yn llai na'r hyn a dybier fod yr enill; heb yr hyn ni ddichon iddynt byth gyfiawn dalu eu dyledion. Ac, mewn trefn i hyny, mae yn rhaid wrth hunanymwadiad a gwyliadwr- iaeth rhag myned yn nullwedd a ffurf y byd, ac mewn modd esmwyth i wrthsefyll yn benderfynol geisiadau annghymedrol eu plant; yr hyn, mewn gwirionedd, sydd ran o'u dyledswydd mewn trefn i'w " maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Rhagofal arall, sydd yn gweddu i'r Cristion, yw gochelyd ymsoddi i ddyled. Byddai yn fuddiol i lawer, i'e, y rhai sydd ganddynt fesur o gyllid blyuyddol, ddylyn yn llythyrenol yr archiad—"na