Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. IONAWR, 1861. TRAFODAETH Y CRISTIOtf GYDA'R, BYD PRlîSENOL.—2 Tbes. iii. 11, 12. "Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd." •—Rhuf. xiii. 8. " Vn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylaw yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno." —Eph. iv. 28. " Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddiallan, ac na fcyddo amoch eisiau dim."—1 Thes. iv. 12. "A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni."— ,2 Thes. iii. 13. Y mae chwa' diwrnod yn yr wythnos wedi eu rhoddi gan Dduw i ddynolryw i wneuthur eu gorchwylion a dylyn eu galwedigaethau bydol; er yr edrych rhai ar hyny fel peth o ychydig bwys, ac y gallaut ei gyflawni os ewyllysiant, neu ei esgeuluso os mynant, heb ei ystyried yn ddyled- swydd fel y niae yn orchymyn uniongyrchol oddiwrth Dduw y nefoedd. Rhai hefyd, yn myned yn mhellach, i fod yn ddrwg-dybus, neu amheus, o rai fyddont yn dra diwyd gyda'u gorchwylion dyddiol neu eu galwedigaethau, gan eu hystyried fel rhai yn rhoddi gormod o'u bryd ar bethau y byd presenol, (yr hyn hefyd, mewn eithafion, sydd beryglus), ac nad ydynt yn rhoddi ond ychydig le yn eu myfyrdodau am bethau tragywyddol; ond gellir dy- wedyd fod syniadau o'r fath yn rhy Phaiiseaidd, er fod llawer o wŷr bucheddol a defosiynol, i ryw raadau, wedi eu hadwytho gan ddychymygion o'r fath. 0 barthed i'r gorchymyn i weithio chwe1 diwrnod, (mor belled ag y mae yn foesol), y mae mor gymhwysiadol i gredinwyr yr Efengyl ag ydoedd dan oruchwyliaeth Moses i'r hen Uglwys,—a hyny i bob gradd, galwedigaeth, neu sefyìlfa: meístriaid, gweision, gwragedd, morwynion, yn gystal a gwŷr a thadau; ie; hyd yn nod y rhai nad oei