Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFAILL PLENTYN. Rhif. 24.] MEHEFIN, 1837. [Cyf. in annerchiad. Fy Mhlant Anwyl, Wele fi wedi bod yn ymddiddan â chwi bellach ddwy flynedd gyfan, ond nis gwn pa faint o les ydych wedi ei gael; ond gwn fy mod i wedi cael llawer o hyfrydwch. Yr wyf yn gobeithio eich bod yn darllen y Cyfaill, nid er mwyn myned trosto a dal ar y gwallau ynddo, y rhai ydynt lawer, ond i gael addysg a budd ynddo; os cawsoch hyny, cefais inau fy amcan. Yn awr yr wyf yn myned î ddywedyd gair yn ddsytaw bach yn eich clustiau, ond peid- iwch terfysgu wrth ei glywed. Nid wyf yn dywedyd na chewch y Cyfaill etto i ymweled â chwi bob mis fel o'r blaen, ac hefyd yn well Cyfaill nag y bu, ond yr wyf am i chwi wybod fod y Cyfaill yn myned i newid ei lywydd, gan fy mod oddeutu myned i gyhoeddi Esponiad rhagorol y diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern, ar bum' Llyfr Moses : meddyliais nas gallaswn wneyd chwareu têg a'r Cyfaill, pan byddai fy nwylaw yn rhy lawnion o orchwylion, ac felly y bu- asech chwi fy mhlant anwyl, yn cael cam. Heblaw hyny, yr wyf yn cydnabod eich bod wedi cael gradd o gam eisioes, o'r hyn lleiaf, mewn amryw o'r Rhifynau o eisiau i mi allu