Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFAILL PLEIMTYÍM. Rhif. 21.1 MAWRTH, 1837. [Cyf.HI. Y MODDION I LWYDDO YR YSGOL SABBATHOL. Tuag at lwyddiant yr Ysgol Sabbathol, y mae yn ofynol, 1. I'r athrawon i holi eu hunain, A ydyw yr Arglwydd, trwy ddylanwadau ei Ysbryd, yn arddel eu gwaith ; ac, a ydyw eu llafur a'u dyben y fath ag sydd gymmeradwygan Dduw; canys os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho; ac, os y w Duw trosom, pwy all fod i'n herbyn. I'r dybenion hyn, dylai yr athrawon ymostwng yn ddifrifol ger bron Duw i ofyn ei gymhorth a'i gyfarwyddyd, i gyfiawni gwaith yr Ysgol Sabbathol mewn modd cymmeradwy ganddo, fel y rhoddo ei sel wrtho; canys "bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg fiinder gydahi." Dar. 10.22. 2. Gan mai bendithio llafur mae yr Argl- wydd, y mae yn ofynol, tuag at lafurio yn hwylus, i'r athrawon iawn-weithredu a chyd- weithredu •. canys heb iawn-weithredu nis gallant ddysgwyl y bendithia yr Arglwydd hwy â llwyddiant; ac heb gyd-weithredu, bydd un yn tynnu i lawr yr hyn fyddo ei frawd yn godi i fynu; un yn collfarnu yr hyn fyddo y Uall yn gyüawnhau; a thŷ wedi ymranu