Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFAILL PLENTYN. Rhif. 19.] IONAWR, 1837. [Cyf. III. V FARI GF.3SrHBDX.IG. Yn anngharedig, yn annhrugarogion.—Rhuf. 1. 31. Pobl Bowchee, ebe, Mr. Lander, yn ei gof- nodau o fynedfa olaf Cadben Clapperton, i Aífrica, a ymddangosant yn anngharedig tu ag at eu plant. Gwerthant hwynt, fel caethion, i'r rhai dyeithraf yn y byd, heb fwy o dynerwch cydwybod, na phe baent ond nwyddau cyff- redin masnach. Yr olygfa deimladwy gan- lynol a gymerodd le yn Fullindushie, tra yr oeddwn ni yn y dref. Caeth-fasnachydd teith- iol ar ei fynediad trwy'r lle, a brynodd amraí o'r plant, o bob rhyw, gan y trigolion; ac yn mhlith eraill, gwraig ganol oed, a chanddi oncl un ferch, a'i gwerthodd hi am wddf-addurn, (necldace.) Yr eneth annedwydd, yr hon a allasai fod o dair ar ddeg i bedair ar ddeg oed, ar ei llusgiad oddiwrthdrothwy bwthyn ei rhi- eni, a ymafaelodd yn derfysglyd, fel y gwna morwr ar long-ddrylliad mewn hwylbren nof- iedig, am luniau ei mham annheimladwy, a chan edrych yn syn yn ei hwyneb, a dorodd ilif o ddagrau, gan leíain mewn taerni a char- iad, ' 0 inam, na werthwch fi ! Beth ddaw o honof fi ? beth ddaw o hono chwithau yn eich henaint, os goddefwch i mi ymadael â chwi?