Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵfifaíll pUním* Rhif. 7.] GORPfJENAF, 1836. [Cyf. II. DUWIOLDEB BOREUOL. WILLIAM DUWIOL YN BLENTYNT. ( Parhad o tu dal. 63.) Yr ydoedd yn hyfrydwch mawr i ricni William bach, veeled nad oedd eu llafur yn ofer. Fel yr oedd William yncynyddu mewn corpholaeth, cynyddai hefyd mewn doethineb, cynyddai ar yr un pryd mewn fFafr gyda dyn- ion ; ac, y mae lle i obeithio ei fod mewn ffafr gyda Duw hefyd. Arferai ei fam roddi iddo, o leiaf, ddwy neu dair o wersi bob dydd, ac felly dysgodd yr egwyddor yn fuan, ac nid hir y bu cyn gallu dyfod i ddarllain ei Destament; dysgodd hefyd lawer o adnodau ar ei gof, ac o ychydigi ych- ydig daeth i ddysgu pennodau, a'u hadrodd wrth y Pregethwr yn y capel ar ddechreu yr oedfa. Yr oedd VVilliam yn hynod o hoff o'r Ysçol Sabbathol, nid esgeulusai hono er dim, ond gofalai fod yno, a hyny yn brydlawn ; ac adroddai yr egwyddorion ar ddiwedd yr Ysgol, yn fwy cywir a phrydferth na nemawr. Dysgwyd ef fod darllen a chwilio yn ffordd i feddu gwybodaeth. Yr oedd yn rheol gan ei dad a'i fam, pan ofynai William ryw gwes- tiwn iddynt, i'w anfon i'w lyfr i chwilio 'am