Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tfgfaíii yitntgm Rhif. 2.] CHWEFROR, 1836. [Cyf. II. BRENIN DYCHRYNIADAU. T mae amryw enwau a chyffelybiaethau, yn cael eu rhoddi ar, ac i, angau yn yr ysgrythyrau; gelwir ef yn Ffordd yr holl ddaear, Joh Ì3. 24. Cyffelybir ef i Wynt, Psalm 103.16. Y mae hefyd yn cael ei alw yn Frenin dychryniadau, Job 18. 14. Sylwaf ar angau, I. Fel brenin. II. Natur eifrenhiniaeth. Brenin dychryniadau. I. Angaufel brenin. 1. Y mae ganddo deyrnas. Y lle y mae yn teyrnasu yw, yn y byd hwn, f? Eithr teyrnas- odd marwolaeth o Adda hyd Moses—trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un," Rhuf. 5. 14, 17 Y llwybr trwy ba un y daeth i'r orsedd ydoedd, trwy bechod; " Cyflog pechod yw marwolaeth," Rhuf. t>. 23. 2. Y mae ganddo ddeiliaid. Y mae pawb wedi bod yn ddeiliaid iddo, ond Enoch ac Elias ; a phawb i gael eudarostwng gan 'do, ond y rhai fydd yn fyw pan ddelo Crist ar gýmylau y nef. S Ac felly yr aeth marwol- aeth ar bob dyn," Rhuf. 5. 12. Yr ydym oll yn ddeiliaid dan lywodraeth brenin braw. 3. Y mae ganddo allu goruchwyliaethol. Pau fyddo amser terfynedig ei allu goruch-