Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. G.] RHAGFYR, 1835. [Cyf. I. CYMDEITHASFA NANTYGLO, (Parhad tu-dal. 52. Boreu y 15fed, am 6, gẃeddiodd Mr. R. Jones, o SwyddGaernarfon, a phregethodd y Parch. Daniel Evans, Ty Ddewi> ar 2 Pcdr 3. 12, a Mr. Griffith Solomon, o Swydd Gaernarfon, ar Eph. 3. 8; am 8, cyfarfod y llafarwyr a'r hlaenoriaid ; am 10, ar y maes, gweddiodd y Parch. William Havard, a phre- gethodd y Parch. Richard Humphreys, ar 1 Cor 6. 20; a'r Parch. Thomas Richards, ar Dan. 9. 13; am 2, gweddiodd Mr. Owen Rowlands, o Fôn, a phregethodd y Parch. Edward Jones, Aberystwith, ar Ioan 6. 37; a'r Parch. William Evans, Tôn-yr-Efail, ar Diar. 11.4. Am hanner awr wedi G, yn y Capel, gweddiodd y Parch. David Bowen, Llansaint; a phregethodd Mr. William Pry- therch, Caio, ar Rhuf. 12. 2; a'r Parch. Evan Harris, Aberhonddu, ar Jos. 4. 24. Dangosodd y cymmydogion garedigrwydd mawr,ac i goroni'r cwbl,cawsom radd. helaeth o hresennoldeb yr Arglwydd.