Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€gfaiil immtm* Rhif. 5.] TACHWEDD, 1835. [Cyf. 1. CYMANFA FLYNYDDOL GYNTAF YR YSGOLION SABBATHOL YN SWYDD FYNWY. GAN fod y wlad hon, wedi bod yn hîr yn ymddifad o freintiau, ac sydd mewn gwledydd eraill, yn Nghymru; ai bod mewn Ilawer o bethau megis yn anhymig; meddyliais y buasei yn ddywenydd gan eich Cyfaill gael hysbysu i'w gyfeillion plentynaidd, fod y fraint hon o'r diwedd, wedi deilliaw i'n gwlad ninnau, a hyny o fewn corph yr un flwyddyn, ac yn agos yr un dyddiau ac y ganwyd yntau (sefy Cyfaill.) Er mai llawforwyn yw yr Ysgol Sabbathol, etto llawforwyn Frenhinol ydyw, a'i gos-gordd lu o'i hamgylch, a'i byddin oll yn arfogion a glewion, a'i gwylwyr oll yn effro ac yn graff iawn, a gobeithiwn gael gweled effeithiau daionus i'r cyfarfod dan sylw. Cynaliwyd y cyfarfod yn y Babell, Awst 27, 1835, yn y drefn ganlynol:— Am naw o'r gloch cyfarfu Athrawon, Ys- grifenyddion, &c. o amryw fanau o'r Sîr, i sylwi ar agwedd yr ysgolion trwy y Sîr, a phenderfynwyd y pethau canlynol;— 1. Gosodwyd Mr. Evan Jones Bedwelltý, yn Ysgrifenydd y Sîr.