Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 3.] MEDI, 1835. [Cyf. 1. RHANIADAU DUWINYDDIAETH. Ail effaith undeb y naturiaethau yn Mherson Crist. Ail eíFaith yr undeb personol yw, fod pri- odoliaethau pob un o naturiaethau Crist yn cael eu cyfrannogi i'r person; a hyny nid mewn geh'iau yn unig, neu mewn enwadau noeth, ond yn sylweddoì a gweithredol. Canys o herwydd undeb" personol y natur- iaethau, y mae pa heth bynnag a berthyn i un, neu i bob un o'r naturiaethau, yn cytuno mewnmodduniawna gwirioneddol â'r person, gan ei fod yn cynnwys yn sylweddol bob un o'r naturiaethau. Er hyny, o herwydd gwahanìaeth hanfodol a thragywyddoì y naturiaethau, nid yw yr hyn sydd briodol i'r naill riaturiaeth mewn modd yn y byd yn briodol i'r llall, er ei fod yn per- thyn i'r person. Gan hyny y mae Crist yn Dduw nid mewn geiriau, ond yn sylweddol a gwirioneddol. Ac y mae yn ddyn hefyd, nid mewn geiriau, ond yn sylweddol a gwirioneddol. Oddi ar hyn y canlyn fod pa beth bynnag a ddywedir am Grist, yn cael ei ddywedyd yn wirioneddol am dano oll, sef, am ei berson anrhanadwy; a hyny gydâ golwg, naill ai ar ei ddwy natur, neu un o honynt yn unig.