Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 2.] AWST, 1835. [Cyf. 1. RHANIADAU DUWINYDDIAETH. Effaith undeb y naturiaeth.au yn Mherson Crist. Y mae effaith daublyg i'r undeb sylweddol yu Mherson Crist: sef, y rhodd o rasusau anrhaethadwy i'r natur a gymerodd; a chyf- ranogiad o briodoliaethau pob un o'r natur- iaethau i'w berson. Y grasusau a roddwyd, neu a ganiatâwyd i natur ddynol Crist, ydynt bedwar yn fwyaf neillduol:— Y cyntaf yw y grás o undeb personol a'r trair, o herwydd cafodd y natur ddynol yr anrhydedd o dderbyn y grâs hwn ; fel trwy rad rodd a grâs Duw, heb un haeddiant o'i heiddo ei hun, ac heb fod yn ol trefn natur; y byddai iddi gael ei cbymeryd i undeb per- son Mab Duw; fel y byddai yn briodol gnawd tragywyddol Fab Duw. Yr ail y w grâs ymarferiadol, neu y grâs o ddoniau; o herwydd fod y natur ddynol wedi ei diwallu a chyflawnder o holl ddoniau yr Ysbryd Glân yn ddifesur, ahyny i'r gradd godidocâf ag y mae yn bosibl i natur grëedig ei dderbyn. Y doniau hyn y rhai a roddwyd i'r ddynoliaeth ydynt gymhwysderau crëedigol, o herwydd creedig ydyw y ddynoliaeth, \ fi