Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 1.] GORPHENAF, 1835. [Cyf. 1. RHANIADAU DUWINYDDIAETH. PERSON CRIST A'l SEFYLLFA. ______________________________i_________________________________________________ Y nodiadau canlynol a gymcrwyd allan o Lyfr, a eltoir Sylwedd Crefydd, neu Raniadau Duwinyddiaeth yn ol Rheolau Trefniad Naturiol gan Amandus Polanus o Polant- dorf. YR EFENGYL. Yr Efengyl, yw yr athrawiaeth iachus hóno am Grist wedi ei egluro, a'i ddangos yn barod. Crist yw unig-anedig, a thragywyddol Fab Duw, wedi ei wneuthur yn ddyn er ein hiach- awdwriaeth ni.—Ioan i. 14; 1 Ioan iv. 2; 1 Tim. iii. 16. Fe ei henwir Crist o herwydd yr enein- ìad, â'r hívn yr eneinwyd ef gan yr Yspryd Glan, yn ffurfiad ei ddynoliaeth; ac am hyny y mae yn Grist hefyd liyd yn oed et ei ffurfiad: canys yr unrhyw Yspryd Sanc- tâidd oedd, ar yr un, a'r unrhyw amser, yn awdwr ei ffurfìad, a'i eneiniad. Y mae dwy ran yn yr wybodaeth am Grist, y gyntaf, am ei Berson, yr ail am ei swydd. AM BERSON CRIST. Un yw Person Crist, ac y mae yn unigol hefyd, o herwydd un yw Crist