Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADYDD. Rhif. 26,] EBRILL, 1812. [Cyf. 3. AT Y PARCH. D. LL. ISAAC, TROSNANT, PONTYPWL. Adolygiad ar y " Crachiedydd" Llythyr II, yn Nghenhadydd Ionawr, 1842, tud. 10. Barchedig Syr,—Gan y gwyddoch chwi, yr hwn ydych yn gwybod pob peth yn inron, fod y meddwl dynol yn dra thueddoî i gynhyrchu rhyw syniad am bob peth a edrycho y llygad arno, goddefwch i mi adrodd wrthych y syniadau a gynhyrchodd yr eiddof fì wrth dreinio ar y darn hwnw a anfonasoch chwi i Genhaoydd lonawr, dan yr enw, i* Y Crachiedydd," Llythyr II. Wrth ddarllen eich <e Sylw y laf, Barddneu ddau ar Grach- iadaeth," sisialwn wrth fy llawes, gan ysibrwd, gweler mor gyfarwydd y mae Mr. I. á gwaith y Beirdd Cymreig a Saisonig! Pwy a feddyliasai ei fod ef yn disgyn ambell dro o uchelder gororau Hebreaidd, Syriaidd, Caldeaidd, Groegaidd, &c, &c, i ddarllen gwaith beirdd bach o fath y rhai hyn? Pan ddarllen- ais yn mlaen at eicli " Sylw yr 2il, yr Ych a'r Gleren," llanwyd fi â rhyw syndod llesineiriol, wrth feddwl am yr hen chwedl yn ìnharth " Yr Ych a'r Gleren," yr hon a glywais lawer gwaith gynt, pan yn Uengcyn o gylch wyth mlwydd oed, gan hen wreigen gyfagos i mi, o'r enw Madlen y Gòf, yr hon a adroddai y cliwedi hon yn dra hwyltis a doniol, nes fy ngyru i lawer fit lesmeiriol o chwerthin. Rhyfeddais yn ddirfawr wrth ddarllen y chwedl yn ei gwisg argraffiadol yn y Chnhadydd, a rhyfeddwyf eto hefyd, pa fodd y cawsoch chwi, Mr. I., gyfleidd ei dysgu gan Madlen y Gôf ? Eithr pan y meddylier rel y mae chwedlau gwrachaidd o'r fath yn myned o dafod un i glust y llall, dichon mai gan ryw henwreigen arall y dysgasoch y ffregod ddigrif hon,canys y mae yn awr idd ei chly wed yn dra chytíYedin oddiar lawer pentan. Gan eich bod, yn moes-wers (moral) e'ichfabîe am <l Yr Ych a'r Gleren," yn awgrymu mai myfi (Ieuan y Crachiedydd) yw y " Gleren" rhaid mai chwithau Mr. I. yw yr Ych corniog a " chwytìodd" eich " cynffon ar draws y gleren ;" rhaid mai chwi yw y gwrdd-darw basanaidd hwn sydd fyth à'ch traed