Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADYDD, OF WALES. Col.......... ............. Acc. H0CMEJ4 Sh. No..........,.............. Cáíâ. Rhif. 2L.] HYDREF 15, 1841. [CvF. 2. CALLINEB ANIFEÍLIAID. YR ELEPHANT. Meddylir mai yr Elephant yw y mwyaf ei gorffolaeth 0 unrhyw bedwar-carnoliaid yn yr holl fyd adnabyddus, ac ymddengys hefyd mai efe yw y callaf. Y mae yr holl dymherau hyfwyn a ffyrnig yn ymddangos megis yn cydgyfarfod yn yr anifail hyn ; ac y mae ei hyddysgedd (ctücility) yn rhyfeddol; canys pan y byddo gwedi ei briodol ddofì, y mae yn alluog i gymeryd ei hyfforddi a'i addysgu i àmrywiaeth dirfawr 0 gyflawniadau difyr a buddiol. Os gwneir iddo niwed gwirfoddol, ymddyga rywbeth yn debyg fel pe gwedi ei ddysgu gan y diweddar Arglwydd Chesterfield, h. y., os geill ryw fodd, diala y sarâd yn ddioed ; eithr qs ym- attalia y pryd hyny, naill ai oddiar gallineb pwyljus, neu » her- wydd anallu i Iwyr dywallt ei ddigofaint, ceidw y trosedd yn ei gof am flyneddau lawer, a gofala am ei ad-dalu gyda llog ar y cyfle addas cyntaf a gaffo. Darllenais am facbgenyn, yr hwn yn ystrangciog a darawocld dduryn (trunk) Eiephant; acynacalonog ymddiogelodd trwy redeg ymaith. Yn mhen saith mlynedd ar ol hyny, dygwyddodd fod y llangc yn chware yn agos i làn afon, a, thra thebygol, gwedi anghofio ei gam-ymddygiad gynt. Eithr yr oedd gan yr Elephant well cof; a chan ad-dalu i'r troseddwr ieuanc, crafangodd ef â'i dduryn, ac yn dra thawel cariodd y carcharor gwingiadol i'r dwfr, Ile y tansoddodd ef unwaith neu ddwy tros ei ben a'i glustiau, ac yna gosododd ef i lawr drachetn yn esinwyth ar y ddaear, gan ei adael i gerdded ymaith heb ei niweidio yn ychwaneg. Mewn gwledydd lle y mae amlder 0 Elephantiaid, dywedir fod